CÂN 70
Chwiliwch am Rai Teilwng
Fersiwn Printiedig
1. Er mwyn i’w ddisgyblion bregethu Gair Duw,
Crist rodd gyfarwyddyd yn glir:
Ewch ati i chwilio am rai sydd yn barod
I wrando a derbyn y gwir.
Dymunwch dangnefedd i ddeiliaid y tŷ,
A chewch rai fydd yn gwrando yn daer.
Os gwrthod eich derbyn a wnânt, ewch, ysgydwch
Y llwch oddi ar wadnau’ch traed.
2. Â chalon agored ymateb wna rhai,
Gwrandawant, a derbyn y Crist.
Yr un sydd â’r agwedd sy’n gywir at fywyd
Tragwyddol, fe ddaw ef yn Dyst.
A pheidiwch â phoeni am beth ddylech ddweud,
Bydd Jehofa’n rhoi’r geiriau i chi.
Bydd ateb sy’n rasol yn ennill calonnau
A’u denu at neges y gwir.
(Gweler hefyd Act. 13:48; 16:14; Col. 4:6.)