Cân 96
Ymofynnwch Pwy Sy’n Deilwng
Fersiwn Printiedig
1. Ein Harglwydd, pregethu am Deyrnas a wnaeth,
Ar eiriau yr Iesu gwrandawn:
“O chwiliwch am rai sy’n sychedu’n ysbrydol
Am drefen â’i moesau’n uniawn.
Cyfarchwch y deiliad, ‘Boed heddwch i’ch tŷ;’
Doed eich hedd ar wrandawyr sy’n daer.
Y llwch oddi ar wadnau’ch traed, O ysgydwch
Os gwrthod wnânt neges y Gair.”
2. O dderbyn tystiolaeth, derbyniant y Crist,
Croesawu eich geiriau a wnânt.
Yn gymwys y byddant i fywyd diddiwedd,
Cenhadu â chi yna gânt.
Pryderus na fyddwn am ’r hyn ddylem ddweud,
Cans Jehofa rydd gymorth i ni.
Atebwn yn rasol â geiriau caredig,
A denu’r addfwynaf rai sy’.
(Gweler hefyd Act. 13:48; 16:14; Col. 4:6.)