CÂN 90
Annog Ein Gilydd
1. Wrth ddangos cariad at ein brodyr
Er mwyn eu hannog a’u cryfhau,
Teimladau cynnes a fydd rhyngom,
A heddwch undod cawn fwynhau.
Cariadus bobl sydd o’n cwmpas,
Y gynulleidfa, hafan yw.
Mae’r gofal gawn yn amhrisiadwy,
Diogel teimlwn wrth gyd-fyw.
2. Fel gem yw gair o lân ganmoliaeth—
Cysuro, rhoi anogaeth wna.
Mawr gysur gawn gan frodyr ffyddlon
A ddaeth i ni’n gymdeithion da.
Cydweithio wnawn ar bob un cyfle,
’R un nod a gobaith gennym sydd.
 geiriau mwyn cawn godi calon,
Help rown i gario pwysau’r dydd.
3. Mor agos yw dydd mawr Jehofa;
I lygaid ffydd mae’n amlwg iawn,
Ac felly’n fwyfwy yw ein hangen,
I’r cyfarfodydd brysio wnawn.
Yn unfryd gyda’r gynulleidfa,
Yn frodyr ac yn ffrindiau cu.
 chariad, annog wnawn ein gilydd,
I’r diwedd, ffyddlon byddwn ni.
(Gweler hefyd Luc 22:32; Act. 14:21, 22; Gal. 6:2; 1 Thes. 5:14.)