CÂN 102
Helpu’r Rhai Gwan
Fersiwn Printiedig
1. Amlwg yw’n gwendidau ni
I Jehofa Dduw.
Er hyn, mae’n ein caru ni,
Tad tosturiol yw.
Ei gariad leddfa’n gwae,
Ei nerth sy’n ein cryfhau.
Cysur ydy cariad, mae’n
Eli at bob briw.
2. Crynu mae pen-gliniau’r rhai
Sydd yn wan eu ffydd.
Gyda gair o gysur cawn
Wneud y gwan yn gryf.
Os cydymdeimlo wnawn
Â’n brawd a’n chwaer drist lawn,
Sychu’r dagrau hallt a gawn
Oddi ar eu grudd.
3. Cynnig help ac estyn llaw—
Codi calon wna.
Annog â charedig air—
Dyna ffisig da.
Camu i’r adwy wnawn,
Cario eu beichiau gawn.
Dwylo llesg y gwan gryfhawn,
Buan cânt wellhad.
(Gweler hefyd Esei. 35:3, 4; 2 Cor. 11:29; Gal. 6:2.)