Cân 42
“Cynorthwyo’r Rhai Gwan”
Fersiwn Printiedig
1. Mae gwendidau ynom oll,
Hyn Jehofa wêl;
Yn angerddol caru mae’r
Ddynol hil â sêl.
Nerthol, tosturiol yw,
Gŵyr ef ein poen a’n briw.
I’r anghenus dangos wnawn
Gariad, doed a ddêl.
2. ‘Onid ydwyf innau’n wan?’
Dd’wedodd Paul, mawr dyst.
‘Cariwch feichiau’ch gilydd,’
yw Glân anogaeth Crist.
Iesu ei waed a roes;
Duw biau’r gwan a’i loes.
Tyner foed y cymorth rown
I’r dagreuol trist.
3. Agwedd oeraidd ni rydd les
Wrth fugeilio’r gwan;
Gwresog, tyner, fo ein gwedd,
Boed ein sgwrsio’n lân.
Annog a helpu wnawn,
I’w cynorthwyo awn.
Gair cariadlon cysur rydd;
Lleddfu loes yw’n rhan.
(Gweler hefyd 2 Cor. 11:29; Esei. 35:3, 4; Gal. 6:2.)