CÂN 149
Cân o Fuddugoliaeth
1. Dewch i gydganu
Am fawr fuddugoliaeth Jehofa;
Gorchfygodd fyddin Pharo A’i boddi dan y lli.
Llwyr fuddugoliaeth!
Jehofa yw’r Duw Hollalluog.
Rhyfeddol yw ei law gref,
Efe yw’r Duw o fri.
(CYTGAN)
Yr Hollalluog Frenin wyt ti.
D’elynion, ni chânt ddianc rhag dy law.
Fuddugol Dduw, sancteiddia d’enw di.
I ti Jehofa canwn fawl.
2. Dyma’r cenhedloedd
Yn codi yn erbyn Jehofa.
Yn gryfach maent na Pharo,
Yn wannach maent na Duw.
Daw dydd eu dedfryd,
Does dim dianc rhag Armagedon;
Bydd rhaid i bawb gydnabod
Jehofa, y Duw byw.
(CYTGAN)
Yr Hollalluog Frenin wyt ti.
D’elynion, ni chânt ddianc rhag dy law.
Fuddugol Dduw, sancteiddia d’enw di.
I ti Jehofa canwn fawl.
(Gweler hefyd Salm 2:2, 9; 92:8; Mal. 3:6; Dat. 16:16.)