Cân 132
Cân Buddugoliaeth
1. Unwch mewn mawlgan: ‘Aruchel yw enw Jehofa.
Cerbydau lluoedd Pharo, fe’u bwriwyd hwy i’r môr.
Nerthol ddeheulaw yr Arglwydd a wnaeth ryfeddodau.
Mawr fuddugoliaeth gafodd; Dyrchafwch enw’n Iôr!’
(CYTGAN)
Goruchaf wyt Jehofa o fri,
I’th rymus Air mae sicrwydd diymwad.
Pan syrthia rhengoedd balch dy elyn cry’
Dy enw sanctaidd gaiff fawrhad.
2. Mawrion y ddaear ni fynnant Arglwyddiaeth Jehofa—
Fe’u dryllia â’i wialen yn fân fel llestr pridd.
Ni fydd dihangfa yn rhyfel mawr Duw, Harmagedon.
Cânt brofi grym ei enw pan ddaw’r arswydus ddydd.
(CYTGAN)
Goruchaf wyt Jehofa o fri,
I’th rymus Air mae sicrwydd diymwad.
Pan syrthia rhengoedd balch dy elyn cry’
Dy enw sanctaidd gaiff fawrhad.
(Gweler hefyd Salm 2:2, 9; 92:8; Mal. 3:6; Dat. 16:16.)