GWERS 16
Beth a Wnaeth Iesu ar y Ddaear?
Mae llawer o bobl yn meddwl am Iesu fel baban mewn preseb, fel dyn doeth, neu fel dyn ar fin marw. Ond a allwn ni ddysgu mwy amdano drwy edrych ar ei fywyd ar y ddaear? Yn y wers hon, byddwn ni’n ystyried rhai o’r pethau pwysicaf a wnaeth Iesu, a sut maen nhw’n effeithio arnoch chi.
1. Beth oedd gwaith pwysicaf Iesu?
Gwaith pwysicaf Iesu oedd ‘cyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw.’ (Darllenwch Luc 4:43.) Cyhoeddodd ef y newyddion da y bydd Duw yn sefydlu Teyrnas, neu lywodraeth, a fydd yn datrys holl broblemau’r ddynoliaeth.a Am dair blynedd a hanner, roedd Iesu yn gweithio yn ddiflino i gyhoeddi’r neges galonogol hon.—Mathew 9:35.
2. Beth oedd pwrpas gwyrthiau Iesu?
Mae’r Beibl yn disgrifio llawer o “weithredoedd nerthol, rhyfeddodau, ac arwyddion a wnaeth Duw” drwy Iesu. (Actau 2:22) Yn nerth Duw, roedd Iesu yn gallu rheoli’r tywydd, bwydo miloedd, iacháu pobl sâl, a hyd yn oed atgyfodi’r meirw. (Mathew 8:23-27; 14:15-21; Marc 6:56; Luc 7:11-17) Roedd gwyrthiau Iesu yn profi mai Duw oedd wedi ei anfon. Dangoson nhw hefyd fod y gallu gan Jehofa i ddatrys pob un o’n problemau.
3. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd roedd Iesu yn byw?
Roedd Iesu bob amser yn ufudd i Jehofa. (Darllenwch Ioan 8:29.) Er bod rhai yn ei wrthwynebu, roedd Iesu yn gwneud popeth a ofynnodd ei Dad, hyd ddiwedd ei fywyd ar y ddaear. Profodd ei bod hi’n bosib i fodau dynol wasanaethu Duw, hyd yn oed mewn amgylchiadau anodd. Gadawodd Iesu “esiampl [inni] ddilyn ôl ei draed yn agos.”—1 Pedr 2:21.
CLODDIO’N DDYFNACH
Ystyriwch sut roedd Iesu yn cyhoeddi’r newyddion da ac yn gwneud gwyrthiau.
4. Cyhoeddodd Iesu newyddion da
Cerddodd Iesu gannoedd o filltiroedd ar hyd ffyrdd llychlyd i rannu’r newyddion da â chymaint o bobl â phosib. Darllenwch Luc 8:1, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
A oedd Iesu yn pregethu dim ond i’r bobl aeth ato ef i wrando?
Pa ymdrech a wnaeth Iesu i siarad â phobl?
Rhagfynegodd Duw y byddai’r Meseia yn cyhoeddi newyddion da. Darllenwch Eseia 61:1, 2, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Sut cyflawnodd Iesu’r broffwydoliaeth hon?
Ydych chi’n meddwl bod pobl angen clywed y newyddion da heddiw?
5. Dysgodd Iesu wersi pwysig
Yn ogystal â chyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw, rhoddodd Iesu wersi ymarferol. Ystyriwch esiamplau o’i anerchiad enwog, y Bregeth ar y Mynydd. Darllenwch Mathew 6:14, 34 a 7:12, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Pa gyngor ymarferol a roddodd Iesu yn yr adnodau hyn?
Ydych chi’n meddwl bod y cyngor hwn yn dal yn ddefnyddiol?
6. Roedd Iesu yn gwneud gwyrthiau
Rhoddodd Jehofa nerth i Iesu i wneud llawer o wyrthiau. I weld un enghraifft, darllenwch Marc 5:25-34 neu gwyliwch y FIDEO. Yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.
Yn y fideo, beth oedd y ddynes sâl yn ei gredu am Iesu?
Beth sy’n eich taro chi am y wyrth hon?
Darllenwch Ioan 5:36, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Beth roedd gwyrthiau Iesu yn ei brofi amdano?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae’r rhan fwyaf o’n gwybodaeth am Iesu yn dod o’r Efengylau—llyfrau Mathew, Marc, Luc, ac Ioan yn y Beibl. Roedd ysgrifenwyr yr Efengylau i gyd yn cynnwys manylion gwahanol am Iesu. At ei gilydd, mae’r manylion hyn yn creu darlun o’i fywyd sy’n hynod o ddiddorol.
MATHEW
oedd y cyntaf i ysgrifennu ei Efengyl. Mae’r pwyslais ar ddysgeidiaeth Iesu, yn enwedig ei ddysgeidiaeth am Deyrnas Dduw.
MARC
a ysgrifennodd yr Efengyl fyrraf. Mae’r hanes yn llawn digwyddiadau ac yn symud yn gyflym.
LUC
sy’n rhoi sylw arbennig i weddi a’r ffordd roedd Iesu yn trin menywod.
IOAN
sy’n datgelu mwy am bersonoliaeth Iesu drwy gynnwys llawer o’r sgyrsiau rhwng Iesu, ei ffrindiau agos, ac eraill.
BYDD RHAI YN DWEUD: “Dyn da oedd Iesu, ond dyna i gyd.”
Beth rydych chi’n ei feddwl?
CRYNODEB
Roedd Iesu yn pregethu am Deyrnas Dduw, yn gwneud gwyrthiau, ac yn ufuddhau i Jehofa bob amser.
Adolygu
Beth oedd gwaith pwysicaf Iesu ar y ddaear?
Beth mae gwyrthiau Iesu yn ei brofi?
Pa wersi ymarferol a roddodd Iesu?
DARGANFOD MWY
Pa bwnc roedd Iesu yn ei drafod fwyaf?
“Teyrnas Dduw—Pam Mae’n Bwysig i Iesu” (Y Tŵr Gwylio, Hydref 1, 2014)
Ystyriwch pam gallwn gredu bod gwyrthiau Iesu wedi digwydd.
“Gwyrthiau Iesu—Beth Gallwch Chi ei Ddysgu?” (Y Tŵr Gwylio, Gorffennaf 15, 2004)
Darllenwch am y ffordd newidiodd bywyd un dyn ar ôl iddo weld faint roedd Iesu yn caru pobl eraill.
“O’n I’n Meddwl am Neb Arall Ond y Fi” (Y Tŵr Gwylio, Hydref 1, 2014)
Gwelwch brif ddigwyddiadau gweinidogaeth Iesu yn eu trefn gronolegol.
“Prif Ddigwyddiadau ym Mywyd Daearol Iesu” (Cymorth i Astudio Gair Duw, rhan 4)
a Cawn fwy o fanylion am Deyrnas Dduw yng ngwersi 31-33.