GWERS 56
Cadw Heddwch yn y Gynulleidfa
Wrth inni ddod at ein gilydd fel brodyr a chwiorydd, rydyn ni’n teimlo’n debyg i’r Brenin Dafydd, a ddywedodd: “Mor dda, ac mor ddymunol yw i bobl fyw’n gytûn.” (Salm 133:1, BCND) Ond nid yw ein hundod yn digwydd drwy hap a damwain. Rydyn ni i gyd yn gallu cyfrannu ato.
1. Beth sydd mor arbennig am bobl Dduw?
Os ydych chi’n mynd i gyfarfod mewn gwlad arall, efallai na fyddwch chi’n gallu deall yr iaith, ond mewn llawer o ffyrdd byddwch chi’n teimlo’n gartrefol yno. Pam? Y rheswm yw ein bod ni’n astudio’r Beibl gan ddefnyddio’r un cyhoeddiadau ym mhob man. Ac rydyn ni’n ceisio dangos cariad tuag at ein gilydd. Ni waeth lle rydyn ni’n byw, gallwn ni i gyd “alw ar enw’r ARGLWYDD a’i wasanaethu’n unfryd.”—Seffaneia 3:9, BCND.
2. Sut gallwch chi hyrwyddo heddwch?
“Carwch eich gilydd o waelod calon.” (1 Pedr 1:22) Sut gallwch chi roi’r cyngor hwn ar waith? Yn hytrach na chanolbwyntio ar ffaeleddau pobl eraill, edrychwch am eu rhinweddau. Yn lle cymdeithasu’n unig gyda’r rhai sydd â’r un diddordebau â chi, ceisiwch ddod i adnabod brodyr a chwiorydd o gefndiroedd gwahanol. Gallwn ni hefyd weithio’n galed i gael gwared ar unrhyw ragfarn sydd gynnon ni.—Darllenwch 1 Pedr 2:17.a
3. Os ydych chi’n anghytuno â Christion arall, beth gallwch chi ei wneud?
Rydyn ni’n bobl unedig, ond rydyn ni hefyd yn amherffaith. Weithiau rydyn ni’n siomi neu hyd yn oed yn brifo ein gilydd. Felly mae Gair Duw yn dweud wrthon ni: “Parhewch . . . i faddau i’ch gilydd,” gan ychwanegu: “Yn union fel y mae Jehofa wedi maddau i chi heb ddal yn ôl, mae’n rhaid i chithau hefyd wneud yr un fath.” (Darllenwch Colosiaid 3:13.) Rydyn ni wedi brifo Jehofa lawer o weithiau, ond eto mae’n maddau inni. Felly, mae’n disgwyl i ni faddau i’n brodyr. Os ydych chi’n sylweddoli eich bod chi wedi brifo rhywun, cymerwch y cam cyntaf i ddatrys y peth.—Darllenwch Mathew 5:23, 24.b
CLODDIO’N DDYFNACH
Chwiliwch am ffyrdd y gallwch chi gyfrannu at undod a heddwch y gynulleidfa.
Beth byddwch chi’n ei wneud i gadw heddwch?
4. Cael gwared ar ragfarn
Rydyn ni’n dymuno caru pob un o’n brodyr. Ond efallai bydd yn anodd inni dderbyn rhywun sy’n ymddangos yn wahanol iawn i ni. Beth all ein helpu? Darllenwch Actau 10:34, 35, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Mae Jehofa yn derbyn pob math o bobl i fod yn Dystion iddo. Sut dylai hyn effeithio ar eich agwedd tuag at bobl sy’n dod o gefndir gwahanol?
Pa fathau o ragfarn sy’n gyffredin yn eich ardal chi yr ydych chi’n benderfynol o’u hosgoi?
Darllenwch 2 Corinthiaid 6:11-13, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut gallwch chi agosáu at frodyr a chwiorydd o gefndiroedd gwahanol?
5. Maddau heb ddal yn ôl a gwneud heddwch
Mae Jehofa yn maddau inni’n hael er na fyddwn ni byth yn gorfod maddau iddo ef. Darllenwch Salm 86:5, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Pa mor eang ydy maddeuant Jehofa?
Pam rydych chi’n ddiolchgar am ei faddeuant?
Ym mha sefyllfaoedd gall fod yn anodd inni gyd-dynnu ag eraill?
Sut gallwn ni efelychu Jehofa a chadw heddwch â’n brodyr a’n chwiorydd? Darllenwch Diarhebion 19:11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Pan fydd rhywun yn eich digio, beth gallwch chi ei wneud er mwyn gwella’r sefyllfa?
Ar adegau, byddwn ni’n brifo pobl eraill. Pan fydd hynny’n digwydd, beth dylen ni ei wneud? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.
Yn y fideo, beth a wnaeth y chwaer er mwyn adfer heddwch?
6. Edrych am y daioni yn eich brodyr a chwiorydd
Wrth inni ddod i adnabod ein brodyr a chwiorydd yn well, rydyn ni’n gallu gweld eu cryfderau a’u gwendidau. Sut gallwn ni ganolbwyntio ar eu cryfderau? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.
Beth all eich helpu chi i weld rhinweddau eich brodyr a chwiorydd?
Mae Jehofa yn canolbwyntio ar ein rhinweddau ni. Darllenwch 2 Cronicl 16:9a, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut mae gwybod bod Jehofa yn canolbwyntio ar eich rhinweddau yn gwneud ichi deimlo?
Mae nam ar bob diemwnt hardd, ond mae’n dal yn werthfawr. Yn yr un modd, mae ein brodyr a’n chwiorydd i gyd yn amherffaith, ond maen nhw’n werthfawr iawn i Jehofa
BYDD RHAI YN DWEUD: “Cyn imi faddau i rywun, mae’n rhaid iddo haeddu’r maddeuant.”
Pam dylen ni fod yn awyddus i faddau i eraill?
CRYNODEB
Gallwch helpu i gadw heddwch yn y gynulleidfa drwy faddau a thrwy ddangos cariad tuag at bob un o’ch brodyr a chwiorydd.
Adolygu
Sut gallwch chi gael gwared ar ragfarn?
Beth byddwch chi’n ei wneud os bydd anghydfod rhyngoch chi a Christion arall?
Pam rydych chi eisiau efelychu esiampl Jehofa o faddau i eraill?
DARGANFOD MWY
Gwelwch sut mae un o eglurebau Iesu’n gallu ein helpu i beidio â barnu pobl eraill.
Oes angen inni ymddiheuro os ydyn ni’n teimlo mai’r person arall sydd ar fai?
“Ymddiheuro—Y Ffordd i Wneud Heddwch” (Y Tŵr Gwylio, Tachwedd 1, 2002)
Sylwch ar sut mae rhai wedi dysgu trin eraill yn ddiragfarn.
Ystyriwch ffyrdd y gallwch chi ddelio ag anghytundeb cyn iddo amharu ar heddwch y gynulleidfa.
“Torri Dadleuon Mewn Ffordd Gariadus” (Y Tŵr Gwylio, Mai 2016)
a Mae Ôl-nodyn 6 yn trafod sut bydd cariad yn gwneud i Gristion osgoi trosglwyddo clefydau heintus i bobl eraill.
b Mae Ôl-nodyn 7 yn trafod sut i ddelio â materion cyfreithiol a sy’n ymwneud â busnes.