LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Ebrill tt. 14-19
  • Mae Cadw’n Agos at Ein Gilydd yn Dda Inni!

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Mae Cadw’n Agos at Ein Gilydd yn Dda Inni!
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PAM DYLEN NI AGOSÁU AT EIN GILYDD
  • ANRHYDEDDU EIN GILYDD
  • ‘PEIDIWCH Â CHAEL RHANIADAU YN EICH PLITH’
  • CARU “MEWN GWEITHRED A GWIRIONEDD”
  • Mae Jehofa’n Dangos Tosturi Tuag Atat Ti
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • “Cadw’n Agos at Dduw Sydd Orau” Inni!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Penderfyniadau Sy’n Dangos Ein Bod Ni’n Dibynnu ar Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Dod yn Hapusach Drwy Roi i Eraill
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Ebrill tt. 14-19

ERTHYGL ASTUDIO 16

CÂN 87 Dere! Cei Di Dy Adfywio!

Mae Cadw’n Agos at Ein Gilydd yn Dda Inni!

“Mae mor dda, ydy mae mor hyfryd pan mae pobl Dduw yn eistedd gyda’i gilydd [byw gyda’i gilydd mewn undod, NWT].”—SALM 133:1.

PWRPAS

Awgrymiadau ar sut i nesáu at ein gilydd a sut mae Jehofa’n ein bendithio ni pan ydyn ni’n ffrindiau â’n cyd-addolwyr.

1-2. Beth sy’n bwysig iawn i Jehofa, a beth mae ef eisiau inni ei wneud?

YCHYDIG iawn o bethau sy’n bwysicach i Jehofa na’r ffordd rydyn ni’n trin pobl eraill. Mae Iesu wedi dysgu inni fod rhaid inni garu ein cymdogion fel ni’n hunain. (Math. 22:​37-39) Mae hynny’n cynnwys bod yn garedig, hyd yn oed tuag at rai sydd ddim yn credu’r un peth â ni. Pan ydyn ni’n dangos caredigrwydd o’r fath, rydyn ni’n efelychu Jehofa Dduw sy’n “gwneud i’r haul godi ar y drwg a’r da ac yn gwneud iddi fwrw glaw ar y cyfiawn a’r anghyfiawn.”—Math. 5:45.

2 Mae Jehofa’n caru’r holl ddynoliaeth, ond yn enwedig y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn. (Ioan 14:21) Mae ef eisiau inni ei efelychu. Mae’n ein hannog ni i gael ‘cariad dwfn’ at ein brodyr a’n chwiorydd ac i ddangos ‘tosturi diffuant’ tuag atyn nhw. (1 Pedr 4:8; Rhuf. 12:10) Pan ydyn ni’n meddwl am ddangos cariad o’r fath tuag at rywun, efallai byddwn ni’n meddwl am y teimlad cynnes sydd gynnon ni tuag at aelod o’r teulu neu ffrind annwyl.

3. Beth mae’n rhaid inni ei gofio am gariad?

3 Os ydyn ni eisiau i’n cariad dyfu, mae’n rhaid inni ofalu amdano a’i fwydo, yn yr un ffordd ag y byddwn ni â phlanhigyn. Rhoddodd yr apostol Paul gyngor i’w gyd-Gristnogion: “Gadewch i’ch cariad brawdol barhau.” (Heb. 13:1) Mae Jehofa eisiau inni barhau i feithrin cariad tuag at eraill. Bydd yr erthygl hon yn trafod pam dylen ni agosáu at ein cyd-addolwyr, a sut gallwn ni gadw’n agos atyn nhw.

PAM DYLEN NI AGOSÁU AT EIN GILYDD

4. Yn ôl Salm 133:​1, sut gallwn ni barhau i werthfawrogi ein hundod Cristnogol? (Gweler hefyd y lluniau.)

4 Darllen Salm 133:1. Rydyn ni’n cytuno â’r salmydd a ysgrifennodd ei bod hi’n beth ‘da’ a “hyfryd” i fod yn ffrind i’r rhai sy’n caru Jehofa. Ond, yn yr un ffordd gall person gymryd yn ganiataol goeden brydferth y mae’n gweld bob dydd, gallwn ni gymryd yr hyfrydwch o’n hundod Cristnogol yn ganiataol hefyd. Rydyn ni’n gweld ein brodyr a’n chwiorydd yn aml, efallai sawl gwaith yr wythnos. Sut gallwn ni wneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i’w gwerthfawrogi nhw? Bydd ein cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn tyfu os ydyn ni’n cymryd yr amser i feddwl am ba mor werthfawr ydy bob un person i’r gynulleidfa ac i ninnau.

Collage: 1. Chwaer yn gwerthfawrogi lliwiau’r dail sy’n newid ar goeden. 2. Yn nes ymlaen, mae hi’n rhoi cwtsh i chwaer arall mewn gynhadledd ranbarthol. Mae eraill yno’n hapus wrth sgwrsio gyda’i gilydd.

Paid byth â chymryd yr hyfrydwch o’n hundod Cristnogol yn ganiataol (Gweler paragraff 4)


5. Pa effaith gall ein brawdoliaeth gariadus ei chael ar eraill?

5 Mae’r cariad sydd gynnon ni at ein gilydd yn gwneud argraff fawr ar y rhai sy’n dod i’n cyfarfodydd am y tro cyntaf. Ar sail hynny, efallai byddan nhw’n dod i’r casgliad eu bod nhw wedi ffeindio’r gwir. Dywedodd Iesu: “Bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddisgyblion i mi os ydych chi’n caru eich gilydd.” (Ioan 13:35) Ystyria brofiad Chaithra, a oedd yn astudio gyda Thystion Jehofa tra oedd hi yn y brifysgol. Fe wnaeth hi dderbyn gwahoddiad i fynychu cynhadledd ranbarthol. Ar ôl diwrnod cynta’r rhaglen, fe ddywedodd hi: “Dydy fy rhieni erioed wedi rhoi cwtsh imi, ond yn y gynhadledd, ges i 52 mewn un diwrnod! Teimlais gariad Jehofa drwy ei deulu ysbrydol. Rydw i eisiau bod yn rhan o’r teulu hwnnw.” Gwnaeth Chaithra barhau i wneud cynnydd a chafodd hi ei bedyddio yn 2024. Pan mae rhai newydd yn gweld ein gweithredoedd da, gan gynnwys y cariad sydd gynnon ni tuag at ein gilydd, yn aml maen nhw’n cael eu cymell i wasanaethu Jehofa.—Math. 5:16.

6. Sut gall agosáu at ein brodyr a’n chwiorydd ein hamddiffyn ni?

6 Mae agosáu at ein brodyr a’n chwiorydd yn gallu ein hamddiffyn ni. Dywedodd Paul wrth ei gyd-Gristnogion: “Parhewch i annog eich gilydd bob dydd . . . fel na fydd unrhyw un ohonoch chi’n cael eich caledu gan rym twyllodrus pechod.” (Heb. 3:13) Os ydyn ni’n digalonni cymaint nes bod ein traed yn dechrau llithro oddi ar lwybr cyfiawnder, gallai Jehofa symud un o’n cyd-gredinwyr i roi’r help sydd ei angen arnon ni. (Salm 73:​2, 17, 23) Mae anogaeth o’r fath yn wir yn dda inni.

7. Beth ydy’r cysylltiad rhwng cariad ac undod? (Colosiaid 3:​13, 14)

7 Rydyn ni’n perthyn i grŵp o bobl sy’n gweithio’n galed i ddangos cariad tuag at ei gilydd ac oherwydd hyn rydyn ni’n mwynhau llawer o fendithion. (1 Ioan 4:11) Er enghraifft, mae cariad yn ein cymell ni i barhau i ‘oddef ein gilydd,’ ac mae hynny’n cyfrannu at ein hundod Cristnogol. (Darllen Colosiaid 3:​13, 14; Eff. 4:​2-6) Does ’na nunlle arall ar y ddaear sy’n cymharu â’r awyrgylch heddychlon rydyn ni’n ei fwynhau yn ein cyfarfodydd.

ANRHYDEDDU EIN GILYDD

8. Sut mae Jehofa’n ein helpu ni i fod yn unedig?

8 Mae’r undod byd-eang rydyn ni’n ei fwynhau yn wyrth. Mae Jehofa’n ei gwneud hi’n bosib er gwaethaf ein hamherffeithion (1 Cor. 12:25) Mae’r Beibl yn dweud ein bod ni’n ‘cael ein dysgu gan Dduw i garu ein gilydd.’ (1 Thes. 4:9) Mewn geiriau eraill, drwy’r Ysgrythurau, mae Jehofa’n dweud wrthon ni yn union beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn agosáu at ein gilydd. Gallwn ni gael ein “dysgu gan Dduw” drwy astudio ei ddysgeidiaethau’n ofalus a’u rhoi nhw ar waith. (Heb. 4:12; Iago 1:25) A dyna’n union beth mae Tystion Jehofa yn ymdrechu i’w wneud.

9. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Rhufeiniaid 12:​9-13 ynglŷn ag anrhydeddu ein gilydd?

9 Sut mae Gair Duw yn ein dysgu ni i agosáu at ein gilydd? Ystyria beth ddywedodd Paul yn Rhufeiniaid 12:​9-13. (Darllen.) Sylwa ar y geiriau: “Byddwch yn awyddus i anrhydeddu eich gilydd.” Beth mae hynny’n ei olygu? Dylen ni gymryd y cam cyntaf i ddangos tosturi diffuant i eraill mewn gwahanol ffyrdd, fel bod yn barod i faddau, bod yn lletygar, a bod yn hael. (Eff. 4:32) Does dim rhaid iti aros i dy frodyr a dy chwiorydd nesáu atat ti. Gelli di ddangos dy fod ti’n “awyddus” i wneud hynny. Dywedodd Iesu: “Mae mwy o hapusrwydd yn dod o roi nag o dderbyn.”—Act. 20:35.

10. Sut gallwn ni weithio’n galed i anrhydeddu ein gilydd? (Gweler hefyd y llun.)

10 Mae’n ddiddorol bod Paul, yn syth ar ôl dweud wrthon ni am fod yn awyddus i anrhydeddu ein gilydd, yn rhoi’r anogaeth: “Gweithiwch yn galed; peidiwch â bod yn ddiog.” Mae hynny’n golygu bod rhaid inni fod yn weithgar ac yn selog a chwblhau unrhyw waith sy’n cael ei roi inni. Mae Diarhebion 3:​27, 28 yn ein hysgogi ni: “Pan fydd gen ti’r cyfle i helpu rhywun, paid gwrthod gwneud cymwynas â nhw.” Felly, pan ydyn ni’n gweld rhywun mewn angen, rydyn ni’n gwneud beth allwn ni i’w helpu. Dydyn ni ddim yn oedi, nac yn disgwyl i rywun arall ofalu am y mater.—1 Ioan 3:​17, 18.

Brawd ifanc yn sefyll ar ysgol, yn glanhau dail o’r landeri ar dŷ brawd hŷn.

Dylen ni fod yn awyddus i’n helpu ein brodyr a’n chwiorydd mewn angen (Gweler paragraff 10)


11. Beth all ein helpu ni i agosáu at ein gilydd?

11 Ffordd arall gallwn ni anrhydeddu eraill ydy drwy fod yn gyflym i faddau iddyn nhw pan maen nhw’n ein digio ni. Mae Effesiaid 4:26 yn dweud: “Peidiwch â gadael i’r haul fachlud a chithau’n dal yn ddig.” Pam ddim? Mae adnod 27 yn dweud y byddai gwneud hynny’n “rhoi cyfle i’r Diafol.” Mae Jehofa’n dweud wrthon ni yn ei Air drosodd a throsodd inni faddau i’n gilydd. Mae Colosiaid 3:13 yn ein hannog ni: “Parhewch . . . i faddau i’ch gilydd heb ddal yn ôl.” Maddau i eraill ydy un o’r ffyrdd gorau o agosáu atyn nhw. Pan ydyn ni’n gwneud hynny, rydyn ni’n cadw “undod yr ysbryd drwy’r heddwch sy’n ein clymu ni wrth ein gilydd.” (Eff. 4:3) Yn syml, mae maddeuant yn cyfrannu at ein hundod a’n heddwch.

12. Sut mae Jehofa’n ein helpu ni i faddau i eraill?

12 Wrth gwrs, efallai bydd yn anodd inni faddau i rywun sydd wedi ein brifo ni, ond gallwn ni lwyddo gyda help ysbryd Duw. Ar ôl ein hannog ni i ddangos ‘tosturi diffuant tuag at ein gilydd’ ac i ‘weithio’n galed,’ mae’r Ysgrythurau yn dweud: “Gadewch i’r ysbryd glân eich egnïo chi.” Mae person sydd wedi ei “egnïo” yn gorlifo â sêl a brwdfrydedd o ganlyniad i ddylanwad yr ysbryd glân. (Gweler y nodyn astudio ar Rhufeiniaid 12:11.) Felly, gall ysbryd Duw ein helpu ni i ddangos tosturi diffuant ac i fod yn barod i faddau. Felly, rydyn ni’n erfyn ar Jehofa am ei help.—Luc 11:13.

‘PEIDIWCH Â CHAEL RHANIADAU YN EICH PLITH’

13. Beth all achosi rhaniadau yn ein plith?

13 Mae ’na ‘bobl o bob math’ o wahanol gefndiroedd yn y gynulleidfa. (1 Tim. 2:​3, 4) Os nad ydyn ni’n ofalus, gallai’r gwahaniaethau hyn greu rhaniadau mewn materion personol fel gwisg a thrwsiad, gofal iechyd, neu adloniant. (Rhuf. 14:4; 1 Cor. 1:10) Gan fod Duw wedi ein dysgu ni i garu ein gilydd, mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gwthio ein barn bersonol fel ei fod yn well na barn pobl eraill.—Phil. 2:3.

14. Beth dylen ni geisio ei wneud, a pham?

14 Gallwn ni hefyd osgoi creu rhaniadau yn y gynulleidfa drwy geisio bod yn adeiladol ac yn galonogol i eraill o hyd. (1 Thes. 5:11) Yn ddiweddar mae nifer o bobl a oedd wedi bod yn anweithredol, neu wedi cael eu rhoi allan o’r gynulleidfa, wedi dod yn ôl. Ac rydyn ni’n rhoi croeso cynnes iddyn nhw! (2 Cor. 2:8) Sylwa beth ddigwyddodd i un chwaer a ddaeth yn ôl i Neuadd y Deyrnas ar ôl bod yn anweithredol am ddeng mlynedd. Dywedodd hi: “Gwnaeth pawb ysgwyd fy llaw a fy nghyfarch gyda gwên fawr.” (Act. 3:19) Sut gwnaeth y pethau bach caredig hyn effeithio arni hi? Mae hi’n dweud, “Roedd yn gwneud imi deimlo bod llaw Jehofa yn fy arwain i’n ôl at hapusrwydd.” Drwy fod yn adeiladol i bawb, gallwn ni gael ein defnyddio gan Iesu i godi calonnau’r rhai “sy’n flinedig ac o dan lwyth trwm.”—Math. 11:​28, 29.

15. Ym mha ffordd arall gallwn ni hyrwyddo undod? (Gweler hefyd y llun.)

15 Ffordd arall gallwn ni hyrwyddo undod ydy gyda’n geiriau. Mae Job 12:11 yn dweud: “Ydy’r glust ddim yn profi geiriau fel mae’r geg yn blasu bwyd?” Yn union fel mae cogydd da yn blasu ei fwyd i wneud yn siŵr ei fod yn flasus cyn ei roi i eraill, byddai’n dda inni feddwl yn ofalus am beth byddwn ni’n ei ddweud cyn siarad. (Salm 141:3) Rydyn ni’n wastad eisiau bod yn siŵr bod ein geiriau yn adeiladol, yn adfywiol, ac yn ‘fuddiol i’r gwrandawyr.’—Eff. 4:29.

Brawd yn blasu beth mae wedi ei goginio cyn rhoi’r bwyd i’w westeion.

Meddylia’n ofalus am beth byddi di’n ei ddweud cyn siarad (Gweler paragraff 15)


16. Pwy yn enwedig ddylai geisio siarad mewn ffordd adeiladol?

16 Dylai gwŷr a rhieni yn enwedig fod yn ofalus i siarad mewn ffordd adeiladol. (Col. 3:​19, 21; Titus 2:4) A dylai henuriaid, fel bugeiliaid, ddefnyddio eu geiriau i roi gorffwys a chysur i braidd Duw. (Esei. 32:​1, 2; Gal. 6:1) Mae dihareb yn y Beibl yn ein hatgoffa ni: “Mor dda ydy gair yn ei bryd!”—Diar. 15:23.

CARU “MEWN GWEITHRED A GWIRIONEDD”

17. Sut gallwn ni sicrhau bod ein cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn ddiffuant?

17 Mae’r apostol Ioan yn ein hannog ni i “garu, nid drwy ddefnyddio geiriau na’r tafod, ond mewn gweithred a gwirionedd.” (1 Ioan 3:18) Rydyn ni eisiau caru ein brodyr a’n chwiorydd o’r galon. Sut gallwn ni wneud hynny? Wrth inni dreulio mwy o amser gyda’n brodyr a’n chwiorydd, byddwn ni’n agosáu at ein gilydd a bydd ein cariad at ein gilydd yn cryfhau. Felly crea gyfleoedd i dreulio amser gydag eraill yn y cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth. Cymera amser i ymweld ag eraill. Pan ydyn ni’n gwneud hynny, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ‘cael ein dysgu gan Dduw i garu ein gilydd.’ (1 Thes. 4:9) A byddwn ni’n hunain yn profi gwirionedd y geiriau: “Mae mor dda, ydy mae mor hyfryd pan mae pobl Dduw yn eistedd gyda’i gilydd [byw gyda’i gilydd mewn undod, NWT].”—Salm 133:1.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Pam mae’n dda inni agosáu at ein gilydd?

  • Sut gallwn ni gymryd y cam cyntaf i anrhydeddu eraill?

  • Sut gallwn ni hyrwyddo undod?

CÂN 90 Annog Ein Gilydd

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu