Adolygu Rhan 3
Trafodwch y cwestiynau canlynol â’r un sy’n eich helpu chi i astudio’r Beibl:
Darllenwch Diarhebion 27:11.
Pam rydych chi eisiau bod yn ufudd i Jehofa?
(Gweler Gwers 34.)
Sut gallwch chi wneud penderfyniadau da pan nad oes gorchymyn clir yn y Beibl?
(Gweler Gwers 35.)
Sut gallwch chi fod yn onest ym mhob peth?
(Gweler Gwers 36.)
Darllenwch Mathew 6:33.
Sut gallwch chi “geisio yn gyntaf y Deyrnas” wrth feddwl am waith ac arian?
(Gweler Gwers 37.)
Ym mha ffyrdd gallwch chi ddangos bod bywyd yn werthfawr i chi, fel y mae i Jehofa?
(Gweler Gwers 38.)
Darllenwch Actau 15:29.
Sut gallwch chi ufuddhau i orchymyn Jehofa ynglŷn â gwaed?
Ydych chi’n meddwl bod ei ofynion yn rhesymol?
(Gweler Gwers 39.)
Darllenwch 2 Corinthiaid 7:1.
Beth mae’n ei olygu i fod yn lân yn gorfforol ac yn foesol?
(Gweler Gwers 40.)
Darllenwch 1 Corinthiaid 6:9, 10.
Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ryw? Ydych chi’n cytuno?
Pa gyngor mae’r Beibl yn ei roi ynglŷn ag alcohol?
Darllenwch Mathew 19:4-6, 9.
Beth yw safon Duw ar gyfer priodas?
Pam mae’n rhaid i briodasau ac ysgariadau gael eu cofrestru’n gyfreithiol?
(Gweler Gwers 42.)
Pa ddathliadau sydd dim yn plesio Jehofa, a pham?
(Gweler Gwers 44.)
Darllenwch Ioan 17:16 ac Actau 5:29.
Sut gallwch chi aros yn niwtral?
Petai cyfraith ddynol yn mynd yn erbyn cyfraith Duw, beth fyddech chi’n ei wneud?
(Gweler Gwers 45.)
Darllenwch Marc 12:30.
Sut gallwch chi ddangos eich bod chi’n caru Jehofa?