LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lmd gwers 10
  • Ymdrech

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ymdrech
  • Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Esiampl Iesu
  • Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?
  • Dilyna Esiampl Iesu
  • Helpa Dy Fyfyrwyr i Wneud Safiad Dros y Gwir
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Un
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Ewch, Gwnewch Ddisgyblion
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Helpa Dy Fyfyrwyr i Gael eu Bedyddio
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
Gweld Mwy
Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
lmd gwers 10

GWNEUD DISGYBLION

Iesu a Nicodemus yn cael sgwrs yn ystod y nos.

Ioan 3:​1, 2

GWERS 10

Ymdrech

Egwyddor: “Roedden ni’n benderfynol o roi ichi, nid yn unig newyddion da Duw ond hefyd ni’n hunain, am eich bod chi wedi dod mor annwyl i ni.” —1 Thes. 2:8.

Esiampl Iesu

Iesu a Nicodemus yn cael sgwrs yn ystod y nos.

FIDEO: Iesu yn Dysgu Nicodemus

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Ioan 3:​1, 2. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1. Pam aeth Nicodemus i weld Iesu yn ystod y nos?—Gweler Ioan 12:​42, 43.

  2. Drwy gyfarfod Nicodemus yn y nos, sut dangosodd Iesu ei fod yn fodlon gwneud pob ymdrech i wneud disgyblion?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n caru pobl drwy wneud pob ymdrech i’w helpu nhw i ddod yn ddisgyblion.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Trefna i astudio ar adeg ac mewn lle sy’n gyfleus i’r person. Efallai bydd un diwrnod neu amser penodol yn fwy cyfleus iddo. A fyddai’n haws iddo astudio yn y gweithle, yn ei gartref, neu mewn man cyhoeddus? Os yw’n bosib, bydda’n fodlon trefnu pethau i fod yn gyfleus iddo ef.

4. Trefna i astudio yn rheolaidd. Os wyt ti’n mynd i ffwrdd, paid â gohirio’r sesiwn astudio. Ystyria:

  1. A elli di gynnal yr astudiaeth rywbryd arall yn ystod yr wythnos?

  2. A elli di astudio dros y ffôn neu drwy gynhadledd fideo?

  3. A elli di ofyn i gyhoeddwr arall gynnal yr astudiaeth?

5. Gweddïa am yr agwedd iawn. Gofynna i Jehofa am help i barhau i gefnogi’r myfyriwr, hyd yn oed os yw’n ei chael hi’n anodd astudio’n rheolaidd neu roi cyngor y Beibl ar waith. (Phil. 2:13) Mae’n siŵr bod gan y myfyriwr lawer o rinweddau; gweddïa am help i ganolbwyntio ar y rhinweddau hynny.

GWELER HEFYD

Diar. 3:27; Act. 20:35; 2 Cor. 12:15

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu