Trysora Dy Ewyllys Rhydd
“Ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid.”—2 COR. 3:17.
1, 2. (a) Beth yw barn pobl ynglŷn ag ewyllys rhydd? (b) Beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am ein hewyllys rhydd, a pha gwestiynau bydden ni’n eu hystyried?
WRTH i ddynes wynebu penderfyniad personol, dywedodd wrth ffrind: “Paid â gwneud imi feddwl; dyweda wrtha’ i beth i’w wneud. Buasai hynny’n haws o lawer.” Roedd yn well gan y ddynes i rywun arall ddweud wrthi beth i’w wneud yn lle defnyddio’r rhodd werthfawr oddi wrth ei Chreawdwr, sef ewyllys rhydd. Beth amdanat tithau? Wyt ti’n hoff o wneud dy benderfyniadau dy hun, neu a yw’n well gen ti i eraill benderfynu drosot ti? Beth yw dy farn di ar ewyllys rhydd?
2 Mae hwn wedi bod yn bwnc llosg am ganrifoedd. Mae rhai yn honni nad oes ewyllys rhydd o gwbl, ac mai Duw sy’n penderfynu gweithredoedd pob un. Mae eraill yn dadlau bod ewyllys rhydd yn bosibl dim ond petai rhyddid llwyr gennyn ni. Ond, er mwyn inni ddeall y pwnc yn iawn, mae’n rhaid inni edrych ar Air Duw, y Beibl. Pam felly? Oherwydd Jehofa a’n creodd ni gydag ewyllys rhydd, hynny yw, gyda’r gallu a’r rhyddid i wneud penderfyniadau call. (Darllen Josua 24:15.) Y Beibl sydd hefyd yn ateb cwestiynau fel: Sut dylen ni ddefnyddio ein rhyddid i wneud penderfyniadau? A oes ffiniau i’n rhyddid? Sut mae’r ffordd rydyn ni’n defnyddio ein hawl i ddewis yn datgelu dyfnder ein cariad tuag at Jehofa? Sut gallwn ni barchu penderfyniadau pobl eraill?
BETH DDYSGWN NI ODDI WRTH JEHOFA A IESU?
3. Pa esiampl a osododd Jehofa ynglŷn â defnyddio’i ryddid?
3 Dim ond Jehofa sydd â rhyddid llwyr, ond mae’r ffordd mae’n ei ddefnyddio yn gosod patrwm inni ei ddilyn. Er enghraifft, fe ddewisodd Duw genedl Israel i ddwyn ei enw, “yn drysor sbesial iddo’i hun.” (Deut. 7:6-8) Nid dewis mympwyol oedd hwnnw. Roedd yn cadw at yr addewid a wnaeth i’w ffrind Abraham ganrifoedd ynghynt. (Gen. 22:15-18) Hefyd, mae Jehofa yn defnyddio’i ryddid yn unol â’i briodoleddau o gariad a chyfiawnder. Gwelwn hyn yn glir yn y ffordd y disgyblodd yr Israeliaid a oedd yn cefnu ar wir addoliad dro ar ôl tro. Ond, unwaith iddyn nhw edifarhau o’r galon, estynnodd Jehofa gariad a thrugaredd atyn nhw, gan ddweud: “Dw i’n mynd i’w gwella o’u gwrthgilio, a’u caru nhw’n ddiamod.” (Hos. 14:4) Dyna esiampl wych o Dduw’n defnyddio’i ryddid er lles eraill!
4, 5. (a) Pwy oedd y cyntaf i dderbyn y rhodd o ewyllys rhydd gan Dduw, a sut defnyddiodd y rhodd honno? (b) Beth yw’r cwestiwn mae’n rhaid i bob un ohonon ni ei ofyn?
4 Pan gychwynnodd Jehofa ar ei waith o greu, fe benderfynodd, oherwydd ei gariad, roi ewyllys rhydd i’w greaduriaid deallus. Y cyntaf i dderbyn y rhodd hon oedd ei Fab, y cyntaf-anedig, yr un sy’n “dangos yn union sut un ydy’r Duw anweledig.” (Col. 1:15) Hyd yn oed cyn iddo ddod i’r ddaear, dewisodd Iesu aros yn ffyddlon i’w Dad a pheidio ag ymuno â gwrthgiliad Satan. Yn hwyrach ymlaen, pan oedd ar y ddaear, defnyddiodd Iesu ei ewyllys rhydd i wrthod temtasiynau’r Gwrthwynebydd mawr. (Math. 4:10) Mewn gweddi daer y noson cyn iddo farw, mynegodd unwaith eto ei fod yn benderfynol o wneud ewyllys Duw. Gweddïodd: “Dad, os wyt ti’n fodlon, cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” (Luc 22:42) Boed inni efelychu esiampl Iesu a defnyddio ein hewyllys rhydd i anrhydeddu Jehofa ac i wneud ei ewyllys! Ydy hynny’n bosibl?
5 Ydy, mae hi’n bosibl inni efelychu esiampl Iesu, gan ein bod ninnau hefyd wedi ein creu ar ddelw a llun Duw. (Gen. 1:26) Ond, mae yna gyfyngiadau arnon ni. Does gennyn ni mo’r rhyddid llwyr sydd gan Jehofa. Mae Gair Duw yn egluro bod gan ein rhyddid ffiniau a bod rhaid inni barchu’r ffiniau priodol y mae Jehofa wedi’u rhoi arnon ni. Ar ben hynny, dylai gwragedd ymostwng i’w gwŷr a phlant i’w rhieni. (Eff. 5:21, 22; 6:1) Sut mae’r ffiniau hyn yn effeithio ar y ffordd rydyn ni’n defnyddio ein hewyllys rhydd? Gall yr ateb effeithio ar ein bywyd tragwyddol.
DEFNYDDIO A CHAMDDEFNYDDIO EWYLLYS RHYDD
6. Eglura pam mae’n briodol i’n rhyddid gael ffiniau.
6 Ydy ewyllys rhydd yn wir bosibl os oes cyfyngiadau arno? Ydy, mae’n bosibl! Pam gallwn ni ddweud hynny? Oherwydd bod cyfyngiadau ar ryddid yn medru diogelu pobl. Er enghraifft, gallwn ddefnyddio ein hewyllys rhydd i benderfynu gyrru i ddinas bell. Er hynny, a fyddet ti’n teimlo’n ddiogel ar y priffyrdd pe na byddai rheolau traffig, lle roedd gan bawb yr hawl i ddewis eu cyflymder eu hunain yn ogystal â pha ochr o’r lôn i yrru arni? Wrth gwrs na fyddet ti! Er mwyn i bawb fwynhau gwir ryddid, mae’n rhaid cael ffiniau. I esbonio mwy am y doethineb o ddefnyddio ein hewyllys rhydd o fewn terfynau, gad inni ystyried esiamplau o’r Beibl.
7. (a) Sut roedd ewyllys rhydd yn amlygu’r gwahaniaeth rhwng Adda a’r anifeiliaid yn Eden? (b) Disgrifia un ffordd y defnyddiodd Adda ei ewyllys rhydd.
7 Pan greodd Duw y dyn cyntaf, Adda, fe roddodd iddo yr un rhodd yr oedd wedi ei rhoi i bob creadur deallus yn y nefoedd, sef ewyllys rhydd. Yn hyn o beth, doedd Adda ddim yr un fath â’r anifeiliaid, sy’n byw wrth reddf. Ystyria sut defnyddiodd Adda ei ewyllys rhydd mewn ffordd briodol. Crëwyd yr anifeiliaid cyn y crëwyd dyn. Ond, rhoddodd Duw’r gwaith hyfryd o enwi’r anifeiliaid i’w fab daearol cyntaf. Roedd Duw “yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai’n eu galw nhw.” Wedi i Adda wylio pob anifail a’i enwi, doedd Duw ddim yn ymyrryd ac yn newid dewisiadau Adda. Yn lle hynny, mae’r Beibl yn dweud: “Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un.”—Gen. 2:19.
8. Sut gwnaeth Adda gamddefnyddio ei ewyllys rhydd, a beth oedd y canlyniad?
8 Trist yw darllen nad oedd Adda yn fodlon ar ei aseiniad fel garddwr a gofalwr y baradwys ddaearol. Nid oedd yn fodlon chwaith ar ei aseiniad i gyflawni gorchymyn Duw: “Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am y pysgod . . . , yr adar . . . , a’r holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.” (Gen. 1:28) Fe ddewisodd gamu y tu hwnt i’r ffiniau a osododd Duw drwy fwyta’r ffrwyth gwaharddedig. Camddefnyddiodd Adda ei ewyllys rhydd yn y ffordd fwyaf dybryd, ac achosodd filoedd o flynyddoedd o boen a dioddefaint i’w ddisgynyddion. (Rhuf. 5:12) Dylai’r canlyniadau hynny ein symbylu ni i ddefnyddio ein rhyddid mewn ffordd gyfrifol a hynny o fewn y terfynau mae Jehofa wedi eu gosod.
9. Pa ddewis a roddodd Jehofa i’w bobl, Israel, a beth oedd eu hymateb?
9 Etifeddodd disgynyddion Adda ac Efa amherffeithrwydd a marwolaeth o’u rhieni anufudd. Er hynny, roedd ganddyn nhw’r hawl o hyd i ddefnyddio eu hewyllys rhydd. Mae hyn yn amlwg o weld sut roedd Duw yn trin cenedl Israel. Drwy ei was Moses, rhoddodd Jehofa ddewis i’r bobl, naill ai i dderbyn neu i wrthod y fraint o fod yn eiddo arbennig iddo. (Ex. 19:3-6) Beth oedd eu hymateb? Dewison nhw dderbyn y telerau a bod yn bobl a fyddai’n dwyn enw Duw, ac yn unfryd y dywedon nhw: “Byddwn ni’n gwneud popeth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud.” (Ex. 19:8) Yn anffodus, wrth i amser fynd heibio, camddefnyddiodd y genedl ei hewyllys rhydd a thorri ei haddewid. Gad inni ddysgu gwers oddi wrthyn nhw a dangos ein bod ni’n trysori ein hewyllys rhydd drwy fod yn ufudd i safonau Jehofa.—1 Cor. 10:11.
10. Sut rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bosibl i bobl amherffaith ddefnyddio eu hewyllys rhydd i anrhydeddu Duw? (Gweler y llun agoriadol.)
10 Yn Hebreaid pennod 11, rhestrir 16 o weision Duw a benderfynodd ddefnyddio eu hewyllys rhydd oddi mewn y terfynau a osododd Jehofa. O ganlyniad i hynny, cawson nhw lawer o fendithion a gobaith sicr am y dyfodol. Er enghraifft, dangosodd Noa ffydd gref, a dewisodd ufuddhau i gyfarwyddiadau Duw i adeiladu arch er mwyn diogelu ei deulu a dyfodol dynolryw. (Heb. 11:7) Aeth Abraham a Sara i wlad yr addewid oherwydd eu bod nhw’n barod i ddilyn arweiniad Duw. Ar ôl iddyn nhw gychwyn ar y daith hir honno, cododd y cyfle i ddychwelyd i’r ddinas gyfoethog, Ur. Ond, yn llawn ffydd, roedden nhw’n hoelio eu sylw ar y dyfodol, i “dderbyn yn llawn beth roedd Duw wedi ei addo iddyn nhw”; roedden “nhw’n dyheu am rywle gwell.” (Heb. 11:8, 13, 15, 16) Cefnodd Moses ar drysorau’r Aifft, ac “yn lle mwynhau pleserau pechod dros dro, dewisodd gael ei gam-drin fel un o bobl Dduw.” (Heb. 11:24-26) Gad inni efelychu’r fath ffydd a thrysori’r rhodd o ewyllys rhydd drwy wneud ewyllys Duw.
11. (a) Beth yw un o’r bendithion sy’n dod inni oherwydd ein hewyllys rhydd? (b) Beth sy’n dy symbylu di i ddefnyddio dy ewyllys rhydd yn iawn?
11 Er ei bod hi’n ymddangos yn haws gadael i eraill benderfynu droson ni, byddai gwneud hynny yn ein hamddifadu o dderbyn un o’r bendithion sy’n dod inni oherwydd ein hewyllys rhydd. Darllenwn am hynny yn Deuteronomium 30:19, 20. (Darllen.) Mae adnod 19 yn disgrifio’r dewis a roddodd Duw i’r Israeliaid. Dysgwn yn adnod 20 fod Jehofa wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw ddangos beth oedd yn eu calonnau. Gallwn ninnau hefyd ddewis i addoli Jehofa. Y rheswm gorau dros ddefnyddio ein hewyllys rhydd yw i fynegi ein cariad tuag at Dduw ac i’w anrhydeddu!
OSGOI CAMDDEFNYDDIO DY EWYLLYS RHYDD
12. Beth na ddylen ni ei wneud gyda’r rhodd o ewyllys rhydd?
12 Dychmyga dy fod ti wedi rhoi anrheg werthfawr i ffrind. Sut byddet ti’n teimlo pe bai dy ffrind yn ei thaflu yn y bin, neu, yn waeth byth, yn ei defnyddio i anafu rhywun? Ystyria sut mae Jehofa’n teimlo yn gweld cymaint o bobl yn camddefnyddio eu rhyddid ac yn gwneud penderfyniadau sy’n brifo eraill. Yn wir, rhagfynegodd y Beibl y byddai dynion yn anniolchgar “yn y cyfnod olaf.” (2 Tim. 3:1, 2) Boed inni byth gamddefnyddio’r anrheg werthfawr hon oddi wrth Jehofa na’i chymryd yn ganiataol. Ond, sut gallwn ni osgoi camddefnyddio’r rhodd o ewyllys rhydd?
13. Beth yw un ffordd o osgoi camddefnyddio ein rhyddid Cristnogol?
13 Mae gan bob un ohonon ni’r hawl i ddewis ein ffrindiau, ein gwisg, a’n hadloniant. Ar y llaw arall, mae’n bosibl inni ddefnyddio ein rhyddid “fel esgus i wneud drygioni” os dewiswn fod yn gaeth i chwantau’r cnawd neu os ydyn ni’n mabwysiadu tueddiadau a ffasiynau cywilyddus y byd. (Darllen 1 Pedr 2:16.) Yn lle defnyddio ein rhyddid yn esgus i adael i chwantau ein rheoli ni, rydyn ni’n benderfynol o wneud dewisiadau a fydd yn ein helpu ni i “anrhydeddu Duw” ym mhob peth a wnawn.—Gal. 5:13; 1 Cor. 10:31.
14. Beth a wnelo ymddiried yn Jehofa â defnyddio ein hewyllys rhydd?
14 Ffordd arall o amddiffyn ein hewyllys rhydd yw drwy ymddiried yn Jehofa a gadael iddo ein harwain ni o fewn y terfynau amddiffynnol y mae wedi eu gosod. Ef yn unig “sy’n dy ddysgu di er dy les, ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.” (Esei. 48:17) Cydnabyddwn yn ostyngedig wirionedd y geiriau ysbrydoledig sy’n dweud “na all pobl reoli eu bywydau. Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy’n mynd i ddigwydd.” (Jer. 10:23) Dydyn ni byth eisiau syrthio i’r fagl o ddibynnu ar ein dealltwriaeth ein hunain, fel y gwnaeth Adda a’r Israeliaid gwrthryfelgar. Yn hytrach, dilynwn yr arweiniad hwn: “Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr.”—Diar. 3:5.
PARCHU EWYLLYS RHYDD POBL ERAILL
15. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r egwyddor yn Galatiaid 6:5?
15 Un o’r cyfyngiadau ar ein rhyddid yw bod rhaid inni barchu hawl pobl eraill i ddewis drostyn nhw eu hunain. Pam? Oherwydd bod gan bob un ohonon ni ewyllys rhydd, ni fydd pob un Cristion yn penderfynu gwneud yn union yr un peth. Mae hyn yn wir hyd yn oed mewn materion sy’n ymwneud ag ymddygiad ac addoliad. Cofia’r egwyddor yn Galatiaid 6:5. (Darllen.) Pan gydnabyddwn fod pob un Cristion yn “gyfrifol” am yr hyn y mae’n ei wneud, byddwn yn parchu’r hawl sydd gan bawb i ddewis yn unol â’u hewyllys rhydd.
16, 17. (a) Pam roedd y rhyddid i ddewis yn bwnc llosg yng Nghorinth? (b) Sut gwnaeth Paul ddatrys y broblem, a beth mae hynny yn ei ddysgu inni am hawliau pobl eraill?
16 Ystyria esiampl o’r Beibl sy’n dangos y rheswm pam y dylen ni barchu rhyddid a chydwybod ein brodyr i wneud eu dewisiadau eu hunain. Roedd y Cristnogion yng Nghorinth yn anghytuno ynglŷn â bwyta cig a oedd wedi ei offrymu i eilunod ond a oedd wedyn ar werth yn y farchnad. Rhesymodd rhai: ‘Gan fod eilun yn ddim byd, mae’r cig yn iawn i’w fwyta gyda chydwybod lân.’ Ond, teimlodd eraill a oedd wedi addoli’r eilunod hynny gynt fod bwyta’r cig yr un fath ag addoli’r eilunod. (1 Cor. 8:4, 7) Mater sensitif oedd hyn, un a oedd yn bygwth undod y gynulleidfa. Felly, sut roedd Paul am helpu’r Cristnogion yng Nghorinth i edrych ar y pwnc o safbwynt Duw?
17 Yn gyntaf, gwnaeth Paul atgoffa’r ddwy ochr o’r ffaith na fyddai bwyd yn dod â nhw’n agosach at Dduw. (1 Cor. 8:8) Nesaf, fe’u rhybuddiodd i beidio â gadael i’r “hawl i ddewis . . . achosi i’r rhai sy’n ansicr faglu.” (1 Cor. 8:9) Wedyn, dywedodd wrth y rhai â chydwybod fwy sensitif i beidio â barnu’r rhai a oedd yn dewis bwyta cig o’r fath. (1 Cor. 10:25, 29, 30) Felly, yn y mater pwysig hwn sy’n ymwneud ag addoli, mae’n rhaid i bob Cristion benderfynu ar sail ei gydwybod ei hun. O feddwl am hynny, oni ddylen ni hefyd barchu hawl ein brodyr i benderfynu drostyn nhw eu hunain mewn materion llai pwysig?—1 Cor. 10:32, 33.
18. Beth rwyt ti am ei wneud i ddangos dy fod ti’n trysori dy ewyllys rhydd?
18 Mae Jehofa wedi rhoi ewyllys rhydd a gwir ryddid inni. (2 Cor. 3:17b) Rydyn ni’n trysori’r rhodd hon oherwydd ei bod yn caniatáu inni wneud dewisiadau sy’n dangos i Jehofa pa mor ddwfn yw ein cariad tuag ato. Bydded i bob un ohonon ni barhau i ddangos ein bod yn gwerthfawrogi’r trysor hwn drwy ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n anrhydeddu Duw a thrwy barchu’r ffordd mae pobl eraill yn dewis defnyddio eu hewyllys rhydd.