LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w17 Ionawr tt. 17-21
  • Pam Mae’n Bwysig i Fod yn Wylaidd?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Mae’n Bwysig i Fod yn Wylaidd?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PAM MAE BOD YN WYLAIDD YN BWYSIG?
  • BETH YW YSTYR BOD YN WYLAIDD?
  • CYDNABOD EIN LLE
  • BETH NAD YW BOD YN WYLAIDD YN EI OLYGU?
  • Fe Elli Di Aros yn Wylaidd o Dan Brawf
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Cerdda’n Ostyngedig ac yn Wylaidd Gyda Dy Dduw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Henuriaid—Dysgwch Oddi Wrth Esiampl Gideon
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Beth Gallwn Ni ei Ddysgu o Ddillad yr Offeiriaid?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
w17 Ionawr tt. 17-21

Pam Mae’n Bwysig i Fod yn Wylaidd?

“Pobl wylaidd ydy’r rhai doeth.”—DIAR. 11:2.

CANEUON: 38, 69

A ELLI DI EGLURO?

  • Pam mae bod yn wylaidd yn bwysig?

  • Sut mae bod yn wylaidd a bod yn ostyngedig yn berthnasol i’w gilydd?

  • Sut gallwn ni ffynnu yn ein haseiniadau?

1, 2. Pam cafodd dyn a oedd ar un adeg yn wylaidd ei wrthod gan Dduw? (Gweler y llun agoriadol.)

AR DDECHRAU ei deyrnasiad, roedd y Brenin Saul yn wylaidd ac yn uchel ei barch. (1 Sam. 9:1, 2, 21; 10:20-24) Ond ychydig ar ôl iddo ddod yn frenin, dechreuodd ymddwyn yn hy. Pan oedd Samuel yn hwyr yn cyrraedd Gilgal, gwnaeth Saul golli amynedd. Roedd y Philistiaid yn paratoi i frwydro, ac roedd yr Israeliaid yn cefnu ar Saul. Mae’n rhaid ei fod wedi meddwl, ‘Dw i’n gorfod gwneud rhywbeth am hyn—ac yn gyflym.’ Felly rhoddodd aberth i Jehofa, rhywbeth nad oedd ganddo hawl i’w wneud. Doedd Jehofa ddim yn hapus.—1 Sam. 13:5-9.

2 Ar ôl iddo gyrraedd Gilgal, gwnaeth Samuel geryddu Saul. Yn hytrach na derbyn y cyngor, gwnaeth Saul hel esgusodion, rhoi’r bai ar bobl eraill, a bychanu’r pechod. (1 Sam. 13:10-14) Rhoddodd hynny gychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau a achosodd iddo golli ei frenhiniaeth, ac yn waeth na hynny, fendith Jehofa. (1 Sam. 15:22, 23) Er gwaethaf y cychwyn addawol, roedd diwedd bywyd Saul yn drychinebus.—1 Sam. 31:1-6.

3. (a) Beth yw barn llawer o bobl ynglŷn â bod yn wylaidd? (b) Pa gwestiynau sydd angen eu hateb?

3 Yn y byd cystadleuol hwn, mae llawer yn meddwl bod rhaid sefyll allan er mwyn llwyddo. Felly, maen nhw weithiau’n rhoi’r gorau i fod yn wylaidd. Er enghraifft, dywedodd actor sydd bellach yn wleidydd: “Nid yw gwyleidd-dra yn air sy’n berthnasol i mi o gwbl—a gobeithio na fydd byth.” Ond, pam mae bod yn wylaidd yn dal yn bwysig? Beth mae’n ei olygu, a beth nad yw’n ei olygu? A sut gallwn ni aros yn wylaidd er gwaethaf sefyllfaoedd anodd neu bwysau gan bobl eraill? Yn yr erthygl hon, byddwn yn ateb y ddau gwestiwn cyntaf. Byddwn yn trafod y trydydd cwestiwn yn yr erthygl nesaf.

PAM MAE BOD YN WYLAIDD YN BWYSIG?

4. Sut byddet ti’n diffinio gweithred feiddgar?

4 Mae’r Beibl yn cyferbynnu bod yn wylaidd â balchder. (Darllen Diarhebion 11:2, BCND.) Roedd Dafydd yn ddoeth pan ofynnodd i Jehofa ei gadw rhag pechodau “beiddgar.” (Salm 19:13) Beth yw pechodau “beiddgar”? Pan fydd rhywun yn gweithredu’n hy neu’n ddigywilydd ac yn gwneud rhywbeth nad oes ganddo’r hawl i’w wneud, mae’n ymddwyn yn feiddgar. Oherwydd ein bod ni’n bechadurus, rydyn ni i gyd yn ymddwyn yn feiddgar weithiau. Ond, fel mae esiampl y Brenin Saul yn dangos, os ydyn ni’n dyrchafu ein hunain, yn hwyr neu’n hwyrach, byddwn ni mewn helynt gyda Duw. Mae Salm 119:21 yn dweud am Jehofa: “Rwyt ti’n ceryddu pobl falch.” Pam felly?

5. Pam mae gweithredoedd beiddgar yn ddifrifol?

5 Mae bod yn feiddgar yn fwy difrifol na chamgymeriad diniwed. Yn gyntaf, pan nad ydyn ni’n wylaidd, ni allwn glodfori Jehofa fel y Penarglwydd. Yn ail, os ydyn ni’n gweithredu y tu allan i ffiniau ein hawdurdod, rydyn ni’n debygol o wrthdaro ag eraill. (Diar. 13:10) Ac yn drydydd, pan fydd ein gweithred feiddgar yn dod i’r amlwg, gallwn godi cywilydd arnon ni’n hunain. (Luc 14:8, 9) Felly, nid yw’r canlyniadau yn dda. Fel mae’r Ysgrythurau’n dangos, bod yn wylaidd yw’r ffordd orau.

BETH YW YSTYR BOD YN WYLAIDD?

6, 7. (a) Beth yw gostyngeiddrwydd? (b) Sut mae bod yn wylaidd yn debyg i fod yn ostyngedig?

6 Mae bod yn wylaidd yn debyg i fod yn ostyngedig. Yn y Beibl, mae gostyngeiddrwydd yn golygu bod yn rhydd o falchder. Mae’n dweud i beidio â “meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill.” (Phil. 2:3) Fel arfer, mae rhywun sy’n ostyngedig hefyd yn wylaidd. Mae’n medru pwyso a mesur ei alluoedd a’i lwyddiannau mewn ffordd gytbwys, a derbyn awgrymiadau a syniadau newydd. Mae gostyngeiddrwydd yn plesio Jehofa yn fawr iawn.

7 Yn y Beibl, mae bod yn wylaidd yn golygu cael safbwynt cywir amdanon ni’n hunain a bod yn ymwybodol o’n cyfyngiadau. Yn iaith wreiddiol y testun, mae’n ymddangos bod y pwyslais ar sut dylai hynny effeithio ar y ffordd rydyn ni’n trin eraill.

8. Beth yw rhai o’r arwyddion sy’n dangos ein bod ni’n meddwl neu’n ymddwyn yn feiddgar?

8 Pryd gallwn ni ddechrau meddwl neu ymddwyn yn feiddgar? Ystyria rai o’r arwyddion. Efallai ein bod ni’n rhoi gormod o bwysigrwydd arnon ni ein hunain neu ar ein breintiau. (Rhuf. 12:16) Efallai ein bod ni’n tynnu sylw aton ni ein hunain mewn ffyrdd amhriodol. (1 Tim. 2:9, 10) Neu efallai ein bod ni’n gorfodi ein barn ar bobl oherwydd ein statws, ein cysylltiadau, neu ein ffordd o feddwl. (1 Cor. 4:6) Yn aml, pan fyddwn ni’n ymddwyn felly, ni fyddwn ni’n ymwybodol ein bod ni wedi croesi’r ffin a newid o fod yn wylaidd i fod yn feiddgar.

9. Pam mae rhai wedi dechrau ymddwyn yn feiddgar? Rho esiampl o’r Beibl.

9 Gall unrhyw un ymddwyn yn feiddgar os yw’n gadael i chwantau cnawdol ei reoli dros dro. Mae uchelgais, cenfigen, a gwylltio’n gacwn wedi achosi i lawer ymddwyn yn feiddgar. Fe wnaeth cymeriadau yn y Beibl, fel Absalom, Usseia, a Nebuchadnesar, ildio i’r “natur bechadurus” honno, ac fe wnaeth Jehofa eu cosbi am fod yn feiddgar.—2 Sam. 15:1-6; 18:9-17; 2 Cron. 26:16-21; Dan. 5:18-21.

10. Pam dylen ni osgoi barnu cymhelliad rhywun arall? Rho esiampl o’r Beibl.

10 Ond, mae rhai yn ymddwyn yn feiddgar am resymau eraill. Er enghraifft, ystyria’r hanesion hyn o’r Beibl: Genesis 20:2-7 a Mathew 26:31-35. Ai chwantau cnawdol oedd wedi cymell Abimelech a Pedr i fod yn feiddgar? Neu a oedden nhw’n anymwybodol o’r ffeithiau, neu’n wan? Oherwydd ni allwn weld beth sydd yng nghalonnau pobl, peth call a chariadus yw peidio â neidio i gasgliad ynglŷn â bwriadau pobl eraill.—Darllen Iago 4:12.

CYDNABOD EIN LLE

11. Sut mae bod yn wylaidd yn gysylltiedig â chydnabod ein lle yng nghyfundrefn Duw?

11 Mae bod yn wylaidd yn cychwyn drwy gydnabod ein lle yng nghyfundrefn Duw. Mae Jehofa yn drefnus, felly mae wedi rhoi lle arbennig inni yn ei gyfundrefn a ffiniau i weithredu oddi mewn iddyn nhw. Mae rôl pob un yn y gynulleidfa yn unigryw, ond mae pob un yn bwysig. Drwy ei garedigrwydd anhaeddiannol, mae Jehofa wedi rhoi galluoedd neu ddoniau i bawb. Gallwn eu defnyddio i glodfori Duw a helpu eraill. (Rhuf. 12:4-8) Mae Jehofa wedi rhoi aseiniad inni sy’n dod ag anrhydedd, ymddiriedaeth, a chyfrifoldeb.—Darllen 1 Pedr 4:10.

12, 13. Pam na ddylen ni synnu os ydy ein lle yng nghyfundrefn Duw yn newid o bryd i’w gilydd?

12 Ond, mae ein lle yn y gyfundrefn yn gallu newid dros amser. Ystyria esiampl Iesu. Ar y cychwyn, roedd ar ei ben ei hun gyda Jehofa. (Diar. 8:22) Yna, helpodd i greu ysbryd greaduriaid eraill, y bydysawd, a phobl. (Col. 1:16) Yn nes ymlaen, derbyniodd Iesu aseiniad newydd ar y ddaear, yn gyntaf fel babi bach ac yna fel oedolyn. (Phil. 2:7) Ar ôl iddo aberthu ei fywyd, dychwelodd i fyw yn y nefoedd fel ysbryd greadur a dod yn Frenin ar Deyrnas Dduw ym 1914. (Heb. 2:9) Ac nid ei aseiniad olaf fydd hynny. Ar ôl ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd, bydd Iesu yn trosglwyddo’r Deyrnas i Jehofa a “bydd Duw yn llenwi popeth.”—1 Cor. 15:28.

13 Gallwn ninnau hefyd ddisgwyl i’n haseiniadau newid o bryd i’w gilydd, yn aml o ganlyniad i’n penderfyniadau. Er enghraifft, a oeddet ti’n sengl, a bellach wedi priodi? Wyt ti wedi dechrau magu plant? Wyt ti wedi ymddeol ac wedi symleiddio dy fywyd er mwyn arloesi? Gyda phob un o’r penderfyniadau hyn, daeth breintiau a chyfrifoldebau. Wrth i’n hamgylchiadau newid, mae’r ffiniau rydyn ni’n gweithredu ynddyn nhw yn ehangu neu’n cyfyngu. Wyt ti’n ifanc neu’n hen? Ydy dy iechyd yn dda neu’n wael? Mae Jehofa bob tro yn meddwl am y ffordd orau o’n defnyddio ni yn ei wasanaeth. Mae’n disgwyl dim ond yr hyn sy’n rhesymol gennyn ni, ac mae’n gwerthfawrogi popeth rydyn ni’n ei wneud.—Heb. 6:10.

14. Sut mae agwedd wylaidd yn ein helpu i gael boddhad ac i fod yn llawen mewn unrhyw sefyllfa?

14 Gwnaeth Iesu fwynhau pob un o’i aseiniadau, a gallwn ninnau hefyd. (Diar. 8:30, 31, BCND) Nid yw rhywun gwylaidd yn teimlo ei fod yn cael ei dagu gan ei aseiniad neu gan ei gyfrifoldebau. Nid yw’n pryderu am ennill mwy o freintiau nac am freintiau pobl eraill. Yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar gael boddhad a llawenydd o’i aseiniad presennol, oherwydd bod yr aseiniad wedi dod oddi wrth Jehofa. Yr un pryd, mae’n parchu’r breintiau a’r cyfrifoldebau mae Jehofa wedi eu rhoi i eraill. Mae bod yn wylaidd yn ein helpu i barchu eraill a’u cynorthwyo nhw.—Rhuf. 12:10.

BETH NAD YW BOD YN WYLAIDD YN EI OLYGU?

15. Beth gallwn ni ei ddysgu o natur wylaidd Gideon?

15 Esiampl dda o fod yn wylaidd yw Gideon. Pan ymddangosodd angel iddo y tro cyntaf, roedd Gideon yn cydnabod ei gefndir a’i alluoedd cyffredin. (Barn. 6:15) Ar ôl derbyn aseiniad oddi wrth Jehofa, sicrhaodd Gideon ei fod yn deall beth roedd Jehofa yn ei ddisgwyl ganddo, gan droi ato am arweiniad. (Barn. 6:36-40) Roedd Gideon yn ddewr. Ond, gweithredodd yn ofalus ac yn graff. (Barn. 6:11, 27) Ni ddefnyddiodd ei aseiniad i’w ddyrchafu ei hun. Yn hytrach, roedd yn hapus i fynd yn ôl i’r hyn yr oedd yn ei wneud o’r blaen.—Barn. 8:22, 23, 29.

16, 17. Pa bethau y mae person gwylaidd yn eu hystyried wrth feddwl am dyfu’n ysbrydol?

16 Dydy bod yn wylaidd ddim yn golygu na ddylen ni geisio breintiau eraill. Mae’r Ysgrythurau yn ein hannog i wneud cynnydd. (1 Tim. 4:13-15) Ydy hynny yn wastad yn golygu newid aseiniad? Dim o reidrwydd. Gyda bendith Jehofa, gallwn wneud cynnydd beth bynnag yw ein haseiniad. Gallwn ddal ati i feithrin y galluoedd mae Duw wedi eu rhoi inni a gwneud mwy o bethau da.

17 Cyn derbyn aseiniad newydd, bydd person gwylaidd yn ceisio deall beth mae’r aseiniad yn ei gynnwys. Wedyn, gallai edrych ar ei sefyllfa’n ofalus. Er enghraifft, a fyddai’n gallu derbyn mwy o waith heb esgeuluso pethau pwysig eraill? A fyddai’n gallu rhannu ei waith presennol fel bod ganddo’r amser i gyflawni ei gyfrifoldeb newydd? Os ‘na’ yw’r ateb i’r cwestiynau hyn, efallai fod rhywun arall mewn gwell sefyllfa i ofalu am yr aseiniad ar hyn o bryd. Bydd gweddïo a bod yn realistig yn ein helpu i beidio â mynd y tu hwnt i’n galluoedd a’n cyfyngiadau. Efallai bydd gwyleidd-dra yn gwneud inni ddweud na.

18. (a) Beth bydd gwylaidd-dra yn ein hysgogi i’w wneud yn ein haseiniad newydd? (b) Sut mae Rhufeiniaid 12:3 yn berthnasol i rywun gwylaidd?

18 Mae esiampl Gideon yn ein hatgoffa na allwn lwyddo mewn aseiniad newydd heb arweiniad a bendith Jehofa. Wedi’r cwbl, cawson ni wahoddiad i fyw yn wylaidd gyda Duw. (Mich. 6:8) Felly, bob tro rydyn ni’n derbyn cyfrifoldebau newydd, pwysig yw gweddïo a myfyrio ar yr hyn mae Jehofa yn ei ddweud drwy ei Air a’i gyfundrefn. Mae’n rhaid inni addasu ein camau simsan a dilyn arweiniad cyson Jehofa. Cofia mai gostyngeiddrwydd Jehofa sy’n gwneud inni lwyddo, nid ein galluoedd ein hunain. (Salm 18:35) Bydd dewis cerdded yn wylaidd gyda Duw yn ein helpu i beidio â meddwl gormod ohonon ni’n hunain, nac i fychanu ein hunain ychwaith.—Darllen Rhufeiniaid 12:3.

19. Pam dylen ni ddal ati i fod yn wylaidd?

19 Mae person gwylaidd yn rhoi’r clod i Jehofa, y Creawdwr, a Phenarglwydd y Bydysawd. (Dat. 4:11) Mae bod yn wylaidd yn ein helpu i fod yn fodlon ar fywyd ac i weithio’n galed yn ein haseiniad. Mae’n ein hatal rhag ymddwyn yn amharchus, ac mae’n hybu undod ymhlith pobl Jehofa. Mae hefyd yn ein hysgogi i roi eraill yn gyntaf, ac i fod yn graff fel nad ydyn ni’n gwneud camgymeriadau difrifol. Am y rhesymau hyn, mae bod yn wylaidd yn bwysig i bob Cristion, ac mae Jehofa yn caru’r rhai sy’n meithrin y rhinwedd hon. Ond, beth os ydyn ni o dan bwysau? Bydd yr erthygl nesaf yn dangos sut i aros yn wylaidd mewn sefyllfaoedd anodd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu