LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp20 Rhif 1 tt. 14-15
  • Y Gwir am y Dyfodol

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Y Gwir am y Dyfodol
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • LLYWODRAETH DDA
  • IECHYD DA
  • HEDDWCH LLWYR
  • BYDD Y DDAEAR WEDI EI LLENWI Â PHOBL DDA
  • BYDD Y DDAEAR GYFAN YN BARADWYS
  • Gobaith
    Deffrwch!—2018
  • Ydyn Ni’n Byw yn “y Dyddiau Diwethaf”?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Beth Fydd y Deyrnas yn ei Gyflawni?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Mae Teyrnas Dduw Yn Teyrnasu Nawr!
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
wp20 Rhif 1 tt. 14-15
Pobl yn mwynhau bywyd yn y Baradwys

Y Gwir am y Dyfodol

Ydych chi erioed wedi meddwl beth sydd o’ch blaen chi? Mae’r Beibl yn dangos y bydd digwyddiadau pwysig y dyfodol agos yn effeithio ar bawb ar y ddaear.

Esboniodd Iesu sut bydden ni’n gwybod bod “teyrnas Dduw yn agos.” (Luc 21:31, BCND) Proffwydodd Iesu y bydden ni’n gweld, ymysg pethau eraill, ryfeloedd a daeargrynfeydd mawr, newynau a heintiau—yn union beth sy’n digwydd heddiw.—Luc 21:10-17.

Mae’r Beibl hefyd yn disgrifio sut byddai pobl yn bihafio neu, yn gywirach, yn cambihafio, yn ystod “cyfnod olaf” rheolaeth ddynol. Gallwch ddarllen y disgrifiad yn 2 Timotheus 3:1-5. O’i ddarllen, mae’n siŵr y byddwch yn cytuno bod y broffwydoliaeth Feiblaidd hon yn ddisgrifiad da iawn o ymddygiad pobl heddiw a’u hagwedd tuag at eraill.

Beth mae hyn yn ei olygu? Yn fuan, bydd Teyrnas Dduw yn gwneud newidiadau mawr a fydd yn gwneud bywyd ar y ddaear yn well o lawer. (Luc 21:36, BCND) Yn y Beibl, mae Duw’n addo pethau da ar gyfer y ddaear a’r bobl a fydd yn byw arni. Dyma rai esiamplau.

LLYWODRAETH DDA

“Derbyniodd [Iesu] awdurdod, anrhydedd a grym. Roedd rhaid i bawb, o bob gwlad ac iaith ei anrhydeddu. Mae ei awdurdod yn dragwyddol—fydd e byth yn dod i ben. Fydd ei deyrnasiad byth yn cael ei dinistrio.”—DANIEL 7:14.

Beth yw’r ystyr? Gallwch fwynhau bywyd o dan y llywodraeth fyd-eang y mae Duw wedi ei sefydlu a’i Fab yn Frenin arni.

IECHYD DA

Merch ifanc yn camu allan o’i chadair olwyn a cherdded

“Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’”—ESEIA 33:24.

Beth yw’r ystyr? Fyddwch chi byth yn mynd yn sâl nac yn anabl; byddwch chi’n gallu byw am byth.

HEDDWCH LLWYR

Reiffl wedi ei falu’n ddarnau

“Mae’n dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan.”—SALM 46:9.

Beth yw’r ystyr? Fydd dim peryg o ryfel byth eto, na’r holl ddioddefaint y mae’n ei achosi.

BYDD Y DDAEAR WEDI EI LLENWI Â PHOBL DDA

“Ni fydd y drygionus . . . Bydd y gostyngedig yn meddiannu’r tir.”—SALM 37:10, 11, BCND.

Beth yw’r ystyr? Fydd pobl ddrygionus ddim yn bodoli mwyach, dim ond pobl sy’n awyddus i ufuddhau i Dduw.

BYDD Y DDAEAR GYFAN YN BARADWYS

“Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth.”—ESEIA 65:21, 22.

Beth yw’r ystyr? Bydd y ddaear gyfan yn cael ei gwneud yn hardd iawn. Bydd Duw yn ateb ein gweddi am i’w ewyllys gael ei wneud “ar y ddaear.”—Mathew 6:10.

Pobl yn mwynhau bywyd yn y Baradwys
    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu