Pryd Daw Teyrnas Dduw i Reoli’r Ddaear?
Roedd rhai o ddilynwyr ffyddlon Iesu eisiau gwybod pryd byddai Teyrnas Dduw yn dechrau llywodraethu. Atebodd Iesu drwy ddweud na fyddan nhw’n gwybod yn union pryd y byddai’n llywodraethu dros y ddaear. (Actau 1:6, 7) Ond, yn gynharach, roedd Iesu wedi rhestru nifer o bethau a fyddai’n digwydd ar yr un pryd. Pan welai ei ddilynwyr y pethau hyn, dywedodd Iesu y bydden nhw’n “gwybod bod Teyrnas Dduw yn agos,” a bod yr amser iddi lywodraethu dros y byd wedi cyrraedd.—Luc 21:31.
PA DDIGWYDDIADAU A RAGWELODD IESU?
Dywedodd Iesu: “Bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd ’na ddaeargrynfeydd mawr, a phrinder bwyd a heintiau mewn un lle ar ôl y llall.” (Luc 21:10, 11) Yn debyg i farciau ôl bys, mae’r digwyddiadau hyn, gyda’i gilydd, yn ffurfio arwydd clir. Fel y mae olion bysedd yn perthyn i un person yn unig, felly mae’r digwyddiadau hyn, sy’n digwydd ar yr un pryd, yn perthyn i un cyfnod, sef y cyfnod pan fydd “Teyrnas Dduw yn agos.” Ydy’r pethau hyn wedi digwydd ar yr un pryd mewn ffordd sy’n amlwg drwy’r byd i gyd? Ystyriwch y dystiolaeth.
1. RHYFEL
Ym 1914, cafwyd rhyfel ar raddfa na welwyd ei thebyg erioed o’r blaen! Cyfeiria haneswyr yn aml at y flwyddyn 1914 fel trobwynt hanesyddol oherwydd dyna pryd y dechreuodd y rhyfel byd cyntaf erioed. Dyna’r tro cyntaf i danciau, bomiau awyr, gynnau peiriant, nwy gwenwynig ac arfau angheuol eraill gael eu defnyddio ar raddfa fawr. Dilynwyd gan yr ail ryfel byd, rhyfel a welodd arfau niwclear yn cael eu dyfeisio a’u defnyddio. Mae’r ddynolryw wedi bod yn rhyfela mewn un lle ar ôl y llall byth ers 1914, ac mae’r rhyfeloedd hynny wedi lladd miliynau o bobl.
2. DAEARGRYNFEYDD
Bob blwyddyn ceir tua 100 o ddaeargrynfeydd sy’n ddigon mawr i achosi “difrod sylweddol,” meddai Britannica Academic. Dywed Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau: “Yn ôl cofnodion a gadwyd dros dymor hir (ers tua 1900), rydyn ni’n disgwyl gweld 16 daeargryn mawr bob blwyddyn.” Efallai bydd rhai’n dadlau mai ffyrdd gwell o’u canfod yw’r rheswm dros y cynnydd yn y nifer o ddaeargrynfeydd, ond y ffaith yw bod daeargrynfeydd mawr o gwmpas y byd yn gyfrifol am ddioddefaint a marwolaethau ar raddfa na welwyd o’r blaen.
3. NEWYN
Mae newyn yn digwydd o ganlyniad i ryfel, llygredd, cwymp economaidd, rheolaeth wael ar amaethyddiaeth, neu ddiffyg cynllunio ar gyfer tywydd eithafol. Yn yr adroddiad “2018 Year in Review,” dywed Rhaglen Fwyd y Byd: “Ar draws y byd, mae 821 miliwn o bobl yn llwgu, 124 miliwn ohonyn nhw’n dioddef o newyn difrifol.” Mae diffyg maeth wedi cyfrannu at farwolaeth tua 3.1 miliwn o blant bob blwyddyn. Yn 2011, dyna a achosodd tua 45 y cant o farwolaethau plant ledled y byd.
4. CLEFYDAU A HEINTIAU EPIDEMIG
Dywed un o gyhoeddiadau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO): “Mae’r unfed ganrif ar hugain eisoes wedi gweld sawl epidemig mawr. Mae hen glefydau—colera, y pla, a’r dwymyn felen, wedi dod yn ôl, ac mae rhai newydd wedi ymddangos—SARS, ffliw pandemig, MERS, Ebola a Zika.” Y pandemig COVID-19 ydy’r diweddaraf. Er bod gwyddonwyr a meddygon wedi dysgu llawer am glefydau, dydyn nhw ddim wedi cael hyd i driniaethau effeithiol ar gyfer pob un.
5. CYHOEDDI’R NEWYDDION DA LEDLED Y BYD
Tynnodd Iesu sylw at agwedd arall ar yr arwydd, pan ddywedodd: “Bydd y newyddion da hyn am y Deyrnas yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd yn dystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna bydd y diwedd yn dod.” (Mathew 24:14) Er gwaethaf yr holl broblemau yn y byd, mae mwy nag wyth miliwn o bobl o bob cenedl yn cyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw mewn 240 o wledydd a mwy na 1,000 o ieithoedd. Nid yw hyn erioed wedi digwydd o’r blaen.
BETH MAE’R ARWYDD YN EI OLYGU I NI?
Mae pob un o’r digwyddiadau y soniodd Iesu amdanyn nhw i’w weld heddiw. Pam dylai hynny fod o ddiddordeb i ni? Oherwydd bod Iesu wedi dweud: “Pan welwch chi’r pethau yma’n digwydd, fe fyddwch chi’n gwybod bod Teyrnas Dduw yn agos.”—Luc 21:31.
Yn fuan iawn bydd y Deyrnas yn sicrhau bod ewyllys Duw yn cael ei wneud ar y ddaear
Mae’r arwydd a roddodd Iesu, ynghyd â chronoleg y Beibl, yn ein helpu ni i ddeall bod Duw wedi sefydlu ei Deyrnas yn y nefoedd ym 1914.a Dyna pryd cafodd mab Duw, Iesu Grist, ei urddo yn Frenin. (Salm 2:2, 4, 6-9) Yn fuan, bydd Teyrnas Dduw yn llywodraethu dros y ddaear. Bydd hi’n disodli pob llywodraeth arall a throi’r ddaear yn baradwys, lle caiff bodau dynol fyw am byth.
Dysgodd Iesu i’w ddisgyblion weddïo: “Gad i dy Deyrnas ddod. Gad i dy ewyllys ddigwydd ar y ddaear, fel y mae yn y nef.” (Mathew 6:10) Cyn bo hir caiff y geiriau hyn eu cyflawni. Ond beth bu’r Deyrnas yn ei wneud ers iddi ddod i rym ym 1914? A beth gallwn ni edrych ymlaen ato pan fydd y Deyrnas yn llywodraethu dros y byd i gyd?
a Am fanylion ynglŷn â’r flwyddyn 1914, gweler gwers 32 yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.