Trysorwch Eich Gweinidogaeth
1. Beth yw agwedd llawer yn y byd tuag at ein gwaith pregethu?
1 Mae llawer ym myd Satan yn ystyried ein gwaith pregethu yn “ffolineb.” (1 Cor. 1:18-21) Os nad ydyn ni’n ofalus, gall yr agwedd anghywir hon achosi inni dorri’n calon a gwanhau ein sêl. (Diar. 24:10; Esei. 5:20) Pam y dylen ni drysori ein braint o fod yn un o Dystion Jehofah?—Esei. 43:10.
2. Pam mae’r weinidogaeth yn cael ei galw’n waith sanctaidd?
2 Yn Waith Sanctaidd: I’r apostol Paul, “gweini fel offeiriaid” [“gwaith sanctaidd” NW] oedd y weinidogaeth. (Rhuf. 15:15, 16) Ym mha ffordd y mae’r weinidogaeth yn waith sanctaidd? Mae cymryd rhan yn y weinidogaeth yn ein gwneud ni’n ‘gyd-weithwyr’ i Jehofah, “yr Un Sanctaidd,” ac yn sancteiddio ei enw. (1 Cor. 3:9; 1 Ped. 1:15) Mae Jehofah yn ystyried ein pregethu fel “aberth moliant,” felly, mae’r weinidogaeth yn rhan hanfodol o addoli Duw.—Heb. 13:15.
3. Pam mae pregethu’r newyddion da yn fraint fawr?
3 Mae pregethu’r newyddion da yn anrhydedd mawr a roddwyd i ychydig yn unig. Byddai’r angylion yn barod iawn i dderbyn aseiniad o’r fath ac fe fyddan nhw’n medru cyflawni’r aseiniad hwnnw yn hynod o effeithiol. (1 Ped. 1:12) Fodd bynnag, mae Jehofah wedi ein dewis ni, pobl amherffaith, “llestri pridd,” i wneud y gwaith pwysig hwn!—2 Cor. 4:7.
4. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n trysori’r weinidogaeth?
4 Yn Flaenoriaeth: Oherwydd ein bod ni’n trysori ein braint o bregethu, mae’r weinidogaeth yn rhywbeth “sy’n rhagori” yn ein bywydau. (Phil. 1:10) Felly, mae’n bwysig inni drefnu amser penodol i gymryd rhan yn y weinidogaeth bob wythnos. Fe fyddai cerddor sy’n trysori’r fraint o fod yn aelod o gerddorfa fyd-enwog yn paratoi ar gyfer pob un perfformiad a byddai’n gweithio’n galed i hogi ei grefft. Yn yr un modd, fe fyddwn ninnau hefyd yn paratoi cyn mynd allan ar y weinidogaeth er mwyn inni allu ‘cyflwyno gair y gwirionedd’ yn ddiwyro, a byddwn ninnau hefyd yn barod i weithio’n galed i hogi ein crefft o hyfforddi eraill.—2 Tim. 2:15; 4:2.
5. Pwy sy’n gwerthfawrogi ein gweinidogaeth?
5 Peidiwch â gadael i ymateb negyddol y rhan fwyaf o bobl eich digalonni. Cofiwch fod llawer sy’n byw yn ein hardal yn hapus inni alw heibio. Sut bynnag, nid cymeradwyaeth pobl rydyn ni yn ei cheisio. Teimladau Jehofah sy’n bwysig inni, ac rydyn ni’n gwybod ei fod ef yn gwerthfawrogi ein gwaith caled.—Esei. 52:7.