Deuddeg Rheswm Dros Bregethu
Pam rydyn ni’n dysgu a phregethu’r newyddion da? Ai’r prif reswm yw denu pobl i’r ffordd sy’n arwain i fywyd? (Math. 7:14) Dyna’r cyntaf yn y rhestr isod, ond nid hwn yw’r prif reswm. Pa un o’r 12 rheswm canlynol ydych chi’n meddwl ydy’r pwysicaf dros gymryd rhan yn y weinidogaeth?
1. Mae’n helpu i achub bywydau. —Ioan 17:3.
2. Mae’n rhybuddio’r drygionus. —Esec. 3:18, 19.
3. Mae’n cyfrannu at gyflawni proffwydoliaethau’r Beibl.—Math. 24:14.
4. Mae’n dangos cyfiawnder Duw. Gall neb gyhuddo Jehofah o beidio â rhoi cyfle i’r drygionus edifarhau cyn eu dinistrio nhw.—Act. 17:30, 31; 1 Tim. 2:3, 4.
5. Mae’n ein galluogi ni i gyflawni ein dyled i roi cymorth ysbrydol i bobl a brynwyd gan waed Iesu. —Rhuf. 1:14, 15.
6. Mae’n ein helpu ni i osgoi bod yn euog o waed.—Act. 20:26, 27.
7. Mae’n un o’r gofynion er mwyn ennill iachawdwriaeth.—Esec. 3:19; Rhuf. 10:9, 10.
8. Mae’n dangos ein bod ni’n caru ein cymdogion.—Math. 22:39.
9. Mae’n dangos ufudd-dod i Jehofah a’i fab.—Math. 28:19, 20.
10. Mae’n rhan o’n haddoliad. —Heb. 13:15.
11. Mae’n dangos ein cariad tuag at Dduw.—1 Ioan 5:3.
12. Mae’n cyfrannu at sancteiddio enw Jehofah.—Esei. 43:10-12; Math. 6:9.
Wrth gwrs, nid rhain yw’r unig resymau dros gymryd rhan yn y weinidogaeth. Er enghraifft, mae’r gwaith pregethu yn cryfhau ein ffydd ac yn rhoi’r cyfle inni gydweithio â Duw. (1 Cor. 3:9) Fodd bynnag, y rheswm pwysicaf dros gymryd rhan yn y weinidogaeth yw’r 12fed pwynt. Beth bynnag yw’r ymateb, mae’r weinidogaeth yn helpu i sancteiddio enw Duw ac yna fe all Jehofah roi ateb i’r un sydd yn ei amharchu. (Diar. 27:11) Yn wir, mae gennym lawer o resymau da dros barhau i ‘ddysgu a chyhoeddi’r newydd da.’—Act. 5:42.