Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Cynnig y Llyfr Beibl Ddysgu
Pam Mae’n Bwysig? Un o’n prif adnoddau a ddefnyddir yn y weinidogaeth yw’r llyfr Beibl Ddysgu. Fodd bynnag, cyn inni fedru defnyddio’r llyfr i astudio â rhywun, mae’n rhaid inni yn gyntaf roi copi iddo. Felly, dylai pob un ohonon ni wneud ymdrech i fod yn fedrus wrth gynnig y llyfr Beibl Ddysgu. (Diar. 22:29) Mae sawl opsiwn ar gael, a dylai cyhoeddwyr ddefnyddio’r hyn sy’n gweithio iddyn nhw.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Neilltuwch amser yn ystod eich addoliad teuluol er mwyn ymarfer.
Tra ydych yn y weinidogaeth, trafodwch ag eraill beth rydych yn bwriadu ei ddweud. (Diar. 27:17) Newidiwch eich cyflwyniad os nad yw’n effeithiol.