Blwch Cwestiynau
◼ Sut rydyn ni’n penderfynu a ddylen ni adael deunydd darllen neu beidio?
Rhaid ystyried diddordeb y person. Os yw’n dangos gwir ddiddordeb, gallwn adael dau gylchgrawn, llyfryn, llyfr, neu unrhyw ddeunydd darllen arall. Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad oes gan y person lawer o arian i gyfrannu tuag at y gwaith byd eang. (Job 34:19; Dat 22:17) Ar y llaw arall, fyddwn ni ddim yn rhoi deunydd darllen i bobl na fyddan nhw yn ei werthfawrogi.—Math. 7:6.
Sut mae deiliad y tŷ yn dangos diddordeb? Arwydd da yw bod rhywun yn barod i siarad â ni. Mae rhywun sy’n gwrando, yn ymateb i gwestiynau, ac yn mynegi ei farn, yn dangos ei fod yn cymryd rhan yn y drafodaeth. Os yw rhywun yn dilyn wrth inni ddarllen o’r Beibl, mae hynny’n dangos bod ganddo barch tuag at Air Duw. Yn aml, peth da fyddai gofyn a yw’n bwriadu darllen y deunydd sy’n cael ei gynnig. Dylai cyhoeddwr bwyso a mesur yn ofalus wrth benderfynu diddordeb yr unigolyn. Er enghraifft, wrth bregethu ar y stryd, ni fyddai’n addas i roi cylchgronau, llyfrynnau, neu lyfrau i bawb sy’n cerdded heibio a hynny heb feddwl. Os yw hi’n anodd penderfynu a oes gan rywun ddiddordeb neu beidio, gwell fyddai rhoi traethodyn iddo neu wahoddiad i’r cyfarfodydd.
Yn yr un modd, dylai cyhoeddwyr gymryd y llenyddiaeth sydd ei hangen ar gyfer y weinidogaeth heb boeni am yr hyn y maen nhw yn ei gyfrannu’n ariannol. Mae ein cyfraniadau yn talu nid yn unig am y deunydd darllen ond hefyd am yr holl waith pregethu byd eang. Beth bynnag yw ein sefyllfa ariannol, bydd gwerthfawrogi pethau ysbrydol yn gwneud inni gefnogi gwaith y Deyrnas drwy roi o’n hangen yn hytrach nag o’n gweddill. (Marc 12:41-44; 2 Cor. 9:7) Byddwn ni’n cymryd dim ond y deunydd darllen sydd ei angen gan osgoi gwastraffu adnoddau theocrataidd.
[Broliant ar dudalen 2]
Dylai cyhoeddwyr bwyso a mesur yn ofalus wrth benderfynu diddordeb yr unigolyn