Beth Yw ei Gyflwr?
Mae hwn yn gwestiwn da y dylid ei ofyn ynglŷn ag unrhyw ddeunydd rydyn ni’n bwriadu ei gynnig. Bydd deunydd blêr neu fudr, gyda’r tudalennau wedi plygu neu wedi melynu, yn adlewyrchu’n wael ar ein cyfundrefn, ac fe all dynnu sylw oddi ar y neges hyfryd y mae’r deunydd yn ei chynnwys.
Sut gallwn ni gadw’r deunydd yn dwt ac yn daclus? Mae rhai’n trefnu eu bag tystiolaethu i gadw eitemau tebyg gyda’i gilydd. Er enghraifft, mae ganddyn nhw le ar gyfer llyfrau, un arall ar gyfer cylchgronau a llyfrynnau, ac un arall eto ar gyfer traethodynnau, ac yn y blaen. Maen nhw’n ofalus wrth roi’r Beibl ac unrhyw ddeunydd arall yn ôl yn y bag i sicrhau bod popeth yn aros yn lân ac yn dwt. Mae rhai cyhoeddwyr yn cadw eu deunydd mewn cas bapur neu blastig. Beth bynnag rydyn ni’n ei wneud, fyddwn ni ddim eisiau i ddeunydd darllen blêr roi esgus i rywun bigo beiau yn ein gweinidogaeth.—2 Cor. 6:3.