Ffordd Dda o Fwynhau Caneuon y Deyrnas
Mae cerddoriaeth yn rhodd hyfryd gan Jehofah. (Iag. 1:17) Mae llawer o gynulleidfaoedd yn mwynhau chwarae caneuon y Deyrnas yn y cefndir cyn ac ar ôl y cyfarfodydd. Mae chwarae cerddoriaeth yn ffordd braf o groesawu pawb i’r cyfarfodydd. Mae’n paratoi ein meddyliau ar gyfer addoli. Hefyd, mae yn ein helpu ni i ddod yn gyfarwydd â’r caneuon newydd y byddwn ni yn eu canu pan fydd y llyfr Sing to Jehovah ar gael yn Gymraeg. Mae chwarae cerddoriaeth o’r fath ar ôl y cyfarfodydd yn creu awyrgylch braf ac yn ein helpu ni i fwynhau cymdeithasu â’n brodyr. Felly, dylai cyrff henuriaid drefnu i chwarae Sing to Jehovah—Piano Accompaniment cyn ac ar ôl y cyfarfodydd. Dylen nhw sicrhau nad yw lefel y sain mor uchel fel y byddai’n boddi sgyrsiau’r brodyr.