“Gwnewch Hyn”
Y Goffadwriaeth—I’w Chynnal ar Ebrill 5
1. Pam y mae hi’n bwysig i gadw’r Goffadwriaeth?
1 “Gwnewch hyn er cof amdanaf.” (Luc 22:19) Dyna ddywedodd Iesu wrth iddo orchymyn ei ddisgyblion i goffáu ei farwolaeth aberthol. Oherwydd yr hyn a gyflawnodd y pridwerth, y Goffadwriaeth flynyddol yw’r diwrnod pwysicaf oll i Gristnogion. Mae’r Goffadwriaeth eleni ar Ebrill 5. Wrth i’r dyddiad agosáu, sut medrwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar i Jehofah?—Col. 3:15.
2. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r Goffadwriaeth drwy astudio a myfyrio?
2 Paratoi: Fel arfer, rydyn ni’n paratoi ar gyfer pethau sy’n bwysig inni. Rydyn ni, fel teuluoedd, yn paratoi ein calonnau drwy ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn ystod dyddiau olaf Iesu ar y ddaear a myfyrio arno. (Esra 7:10) Mae rhai adnodau i’w cael yn y calendr ac yn y llyfryn Examining the Scriptures Daily, ond mae rhestr fwy manwl, ynghyd â’r penodau perthnasol sydd yn y llyfr Greatest Man, i’w chael ar dudalennau 23-24 o’r Watchtower, Chwefror 1, 2011.
3. Sut medrwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r Goffadwriaeth drwy wneud mwy yn y weinidogaeth?
3 Pregethu: Gallwn ni hefyd ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r pridwerth drwy wneud cymaint ag y medrwn ni yn y weinidogaeth. (Luc 6:45) Ar ddydd Sadwrn, Mawrth 17, bydd ymgyrch fyd-eang i wahodd pobl i’r Goffadwriaeth yn cychwyn. A fedrwch chi drefnu i dreulio mwy o amser yn y weinidogaeth, efallai fel arloeswr cynorthwyol? Beth am ichi drafod hyn yn ystod eich noson Addoliad Teuluol nesaf?
4. Pa les sy’n dod o gadw’r Goffadwriaeth?
4 Rydyn ni’n elwa’n fawr ar fynychu’r Goffadwriaeth bob blwyddyn. Trwy fyfyrio ar haelioni Jehofah yn rhoi ei unig-anedig fab yn bridwerth, bydd ein llawenydd a’n cariad tuag at Dduw yn dyfnhau. (Ioan 3:16; 1 Ioan 4:9, 10) Bydd hyn yn ein gorfodi ni i beidio â byw inni ein hunain mwyach, ac yn ein hysgogi ni i foli enw Jehofah yn gyhoeddus. (2 Cor. 5:14, 15; Salm 102:19-21) Mae gweision diolchgar Jehofah yn edrych ymlaen at ‘gyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd’ yn y Goffadwriaeth ar Ebrill 5.—1 Cor. 11:26.