Paratowch ar Gyfer y Goffadwriaeth Gyda Chalon Lawen
1. Beth mae cyfnod y Goffadwriaeth yn rhoi cyfle inni ei wneud?
1 Mae’r Goffadwriaeth ar ddydd Mawrth, Mawrth 26 eleni. Mae’r cyfnod cyn y Goffadwriaeth yn rhoi cyfle gwych inni ddangos ein llawenydd am yr hyn a wnaeth Duw er mwyn inni gael iachawdwriaeth. (Esei. 61:10) Sut gallwn ni fod yn llawen wrth inni baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth?
2. Beth sydd yn ein hysgogi ni i baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth?
2 Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth: Mae Swper yr Arglwydd yn achlysur syml ond yn un hynod o bwysig. Mae’n cymryd llawer o waith o flaen llaw i sicrhau nad yw’r manylion pwysig yn cael eu hanghofio. (Diar. 21:5) Mae’n rhaid dewis amser a lleoliad addas, ac yna glanhau’r lle a’i baratoi. Rhaid cael hyd i’r elfennau cywir. Dylai’r siaradwr baratoi yn ofalus ar gyfer yr anerchiad, a dylai’r gweinyddion a’r gwasanaethwyr gael arweiniad da. Mae’n debyg bod llawer o’r gwaith hwn wedi ei wneud yn barod. Mae gwerthfawrogiad dros y pridwerth yn ein hannog ni i baratoi’n dda amdani.—1 Pedr 1:8, 9.
3. Sut gallwn ni baratoi ein calonnau ar gyfer Swper yr Arglwydd?
3 Paratoi’r Galon: Hefyd, mae’n hanfodol inni baratoi ein calonnau er mwyn inni ddeall yn iawn bwysigrwydd y Goffadwriaeth. I’r diben hwn, dylen ni neilltuo amser i ddarllen yr adnodau arbennig o’r Beibl ar gyfer y Goffadwriaeth, ac wedyn i fyfyrio ar ddyddiau olaf Iesu ar y ddaear. Bydd gwneud hyn yn ein hysgogi ni i efelychu agwedd hunanaberthol Iesu.—Gal. 2:20.
4. Pam mae’r pridwerth yn gwneud i chi lawenhau?
4 Mae marwolaeth Iesu yn llwyr gyfiawnhau sofraniaeth Jehofah. Mae’n ein rhyddhau ni oddi wrth bechod a marwolaeth. (1 Ioan 2:2) Mae’n rhoi’r cyfle inni gael perthynas agos â Duw a chael bywyd tragwyddol. (Col. 1:21, 22) Hefyd, mae’n ein gwneud ni’n fwy penderfynol o gadw at ein hymgysegriad i Jehofah ac i barhau fel disgyblion Iesu. (Math. 16:24) Wrth ichi baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth a’i mynychu bydd eich llawenydd yn cynyddu!