LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 4/12 t. 1
  • Tri Awgrym i Hogi Eich Sgiliau Dysgu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Tri Awgrym i Hogi Eich Sgiliau Dysgu
  • Ein Gweinidogaeth—2012
  • Erthyglau Tebyg
  • Eglurebau Sy’n Dysgu
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Gwrando ar Dduw—Sut i’w Ddefnyddio?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Cadw Pethau’n Syml
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
Ein Gweinidogaeth—2012
km 4/12 t. 1

Tri Awgrym i Hogi Eich Sgiliau Dysgu

1. Pam dylen ni geisio gwella ein sgiliau dysgu?

1 Mae pob Cristion yn athro. Rydyn ni’n dysgu ar y galwad cyntaf, wrth alw’n ôl, ac wrth astudio’r Beibl gyda rhywun. Ac mae’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu yn wybodaeth arbennig. Rydyn ni’n taflu goleuni ar yr “Ysgrythurau sanctaidd,” sy’n gwneud pobl yn ‘ddoeth a’u dwyn i iachawdwriaeth.’ (2 Tim. 3:15) Am fraint! Dyma dri awgrym i hogi eich sgiliau dysgu.

2. Sut gallwn ni ddysgu eraill mewn ffordd syml?

2 Symlrwydd: Os ydyn ni’n deall pwnc yn dda, gallwn ni anghofio pa mor gymhleth mae’r wybodaeth i rywun sydd heb ei chlywed o’r blaen. Felly, pan ydych yn cynnal astudiaeth o’r Beibl, peidiwch â chymhlethu pethau drwy drafod gormod o fanylion. Tynnwch sylw at y prif bwyntiau. Dydy mwy o siarad ddim yn golygu bod safon y dysgu yn well. (Diar. 10:19) Fel arfer, mae’n well inni ddarllen yr adnodau allweddol yn unig. Ar ôl darllen adnod, canolbwyntiwch ar y rhan sy’n berthnasol. Roedd Iesu’n dysgu gwirioneddau dwfn gydag ychydig o eiriau ac mewn ffordd syml. Mae esiampl dda o hyn i’w gweld yn y Bregeth ar y Mynydd ym Mathew penodau 5 hyd at 7. 

3. Pa fath o eglurebau sydd fwyaf effeithiol, a pham?

3 Eglurebau: Mae eglurebau yn gwneud inni feddwl. Maen nhw’n cyffwrdd â’n calonnau ac yn ein helpu ni i gofio gwersi. Does dim rhaid inni fod yn storïwr da i roi eglurebau effeithiol. Yn aml, defnyddiodd Iesu eglurebau syml a byr. (Math. 7:3-5; 18:2-4) Gall dynnu lluniau syml ar bapur fod yn ddefnyddiol iawn hefyd. Bydd paratoi o flaen llaw yn eich helpu chi i feddwl am eglurebau effeithiol.

4. Sut medrwn ni ddefnyddio cwestiynau yn effeithiol?

4 Cwestiynau: Mae cwestiynau yn gwneud i bobl feddwl. Felly, byddwch yn amyneddgar ar ôl ichi ofyn cwestiwn. Os ydych yn rhuthro i roi’r ateb i’r myfyriwr, fyddwch chi ddim yn darganfod faint y mae’n ei ddeall. Yn lle cywiro atebion anghywir, byddai’n well arwain y myfyriwr at y casgliad cywir drwy ofyn cwestiynau ychwanegol. (Math. 17:24-27) Wrth gwrs, does dim un ohonon ni’n athro perffaith. Gan hynny, mae’r Beibl yn ein hannog ni i gadw llygad ar y ffordd rydyn ni’n hyfforddi eraill. Bydd gwneud hyn yn dod â bendithion tragwyddol i ni ein hunain ac i’r rhai sy’n gwrando arnon ni.—1 Tim. 4:16.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu