Y Llyfr: “God’s Word for Us Through Jeremiah”
1. Pa lyfr a gyhoeddwyd yn Saesneg yn y Gynhadledd Ranbarth yn 2010, a beth yw ei bwrpas?
1 Roedden ni mor falch o dderbyn y llyfr newydd hwn yn y Gynhadledd Ranbarth yn 2010, gyda’r thema “Remain Close to Jehovah!” Bwriad y llyfr hwn yw tynnu ein sylw at gyngor ymarferol llyfrau Jeremeia a Galarnad sy’n medru ein helpu ni yn ein bywydau bob dydd. (Rhuf. 15:4) Mae’r llyfr hwn wedi ei baratoi ar gyfer cael ei astudio.
2. Pam mae’n fuddiol inni astudio’r llyfrau Jeremeia a Galarnad yn y Beibl?
2 Er Ein Lles Ni Heddiw: Mewn cyfnod anodd iawn yn hanes Jwda, ysbrydolodd Jehofah y proffwyd Jeremeia i ysgrifennu un o lyfrau’r Beibl. Ar y dechrau, nid oedd Jeremeia yn teimlo’n hyderus ynglŷn â’r aseiniad. (Jer. 1:6) Roedd Jeremeia yn cael ei erlid gan rai a oedd yn ei adnabod, ac efallai gan aelodau o’i deulu yn Anathoth. (Jer. 11:21, 22) Yn amlwg felly, roedd Jeremeia’n teimlo’n ddigalon ar adegau. (Jer. 20:14) Wrth inni gyflawni ein comisiwn i ‘wneud disgyblion o’r holl genhedloedd,’ rydyn ni’n wynebu’r un fath o her â Jeremeia, ac yn teimlo yr un emosiynau. (Math. 28:19) Bydd astudio geiriau Jeremeia yn ein helpu ni i gyflawni ein gweinidogaeth yn hyderus ac yn selog.
3. Sut byddwn ni’n defnyddio nodweddion arbennig y llyfr Jeremiah?
3 Nodweddion: Mae’r prif adnodau y dylen ni eu darllen wedi eu hitaleiddio. Ar ddiwedd pob rhan, mae cwestiwn neu ddau mewn print trwm yn pwysleisio prif bwyntiau’r wers. Ceir lluniau gwych drwy gydol y llyfr.
4. Sut gallwn ni elwa ar y llyfr Jeremiah?
4 Wrth ddarllen y llyfr, edrychwch am bwyntiau y gallwch chi eu defnyddio yn eich bywyd a’ch gweinidogaeth. Gyda bendith Jehofah, fe wnaeth Jeremeia gyflawni ei aseiniad yn llawn llawenydd a bodlonrwydd. (Jer. 15:16) Bydd y llyfr hwn yn ein helpu ni i gyflawni ein gweinidogaeth fel y gwnaeth Jeremeia.