LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 7/12 tt. 4-7
  • Efallai Bydd Angen Chwilio Cyn Pregethu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Efallai Bydd Angen Chwilio Cyn Pregethu
  • Ein Gweinidogaeth—2012
  • Erthyglau Tebyg
  • Cydweithio i Bregethu Mewn Tiriogaeth Amlieithog
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
Ein Gweinidogaeth—2012
km 7/12 tt. 4-7

Efallai Bydd Angen Chwilio Cyn Pregethu

1. Mewn ardaloedd amlieithog, pam mae tiriogaethau’r cynulleidfaoedd yn cael eu trefnu yn ôl iaith?

1 Ar ôl i’r disgyblion dderbyn yr ysbryd glân adeg Pentecost 33 OG, “dechreusant lefaru â thafodau dieithr” wrth y rhai oedd wedi dod i Jerwsalem o wledydd pell. (Act. 2:4) Fel canlyniad, cafodd tua 3,000 eu bedyddio. Mae’n debyg fod y rhan fwyaf o’r ymwelwyr hynny yn medru iaith gyffredin hefyd, megis Hebraeg neu Roeg. Ond eto, roedd Jehofah am iddyn nhw glywed neges y Deyrnas yn eu hieithoedd eu hunain. Un rheswm dros hynny, yn ddiau, oedd bod pobl yn fwy parod i ymateb i’r newydd da o’i glywed yn eu mamiaith. Felly heddiw, mewn ardaloedd amlieithog, mae tiriogaethau’r cynulleidfaoedd yn cael eu trefnu yn ôl iaith. (Organized, t. 107, par. 2-3) Nid yw grwpiau ieithoedd tramor yn dal tiriogaeth benodol, ond maen nhw’n pregethu wrth siaradwyr yr iaith yn nhiriogaeth y gynulleidfa sy’n noddi’r grŵp hwnnw a hefyd yn nhiriogaethau cynulleidfaoedd eraill yn yr ardal.

2. (a) Beth yw’r gwaith chwilio, a lle bydd angen gwneud hyn? (b) Sut gall cynulleidfaoedd helpu ei gilydd wrth weithio tiriogaethau amlieithog? (c) Beth dylen ni ei wneud os ydyn ni’n cyfarfod rhywun sydd â diddordeb yn y neges ond sy’n siarad iaith arall?

2 Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae pawb yn siarad yr un iaith, y cyfan sydd ei angen yw mynd o un tŷ i’r un nesaf. Ond efallai rydych chi’n byw mewn ardal neu ddinas amlieithog. Hwyrach y bydd cynulleidfaoedd sy’n defnyddio ieithoedd eraill yn pregethu yn yr un ardal. Efallai bydd y cynulleidfaoedd hynny yn rhoi gwybod ichi am bobl y maen nhw’n dod ar eu traws sy’n siarad eich iaith, ond eich grŵp neu gynulleidfa chi sydd â’r prif gyfrifoldeb am ddod o hyd i bobl sy’n siarad eich iaith chi. (Gweler y blwch “Helpu Ein Gilydd.”) Felly, mae’n bosibl y bydd angen ichi wneud gwaith chwilio er mwyn dod o hyd i’r rhai sy’n siarad un iaith benodol. Sut gallwn ni wneud hyn?

3. Beth sy’n penderfynu lle mae cynulleidfa’n chwilio a faint o amser maen nhw’n defnyddio ar gyfer y gwaith hwn?

3 Trefnu’r Gwaith Chwilio: Bydd yr amser a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwaith chwilio yn dibynnu ar yr amgylchiadau lleol. Er enghraifft, faint o bobl yn y gymuned sy’n siarad yr iaith honno? Faint o gyhoeddwyr sydd? Faint o gyfeiriadau sydd eisoes gan y grŵp neu’r gynulleidfa? Nid oes angen i’r gynulleidfa chwilio pob ardal yn yr un modd. Efallai byddan nhw’n dewis canolbwyntio ar yr ardaloedd o fewn eu tiriogaeth sydd â phoblogaeth uwch ac ar ardaloedd eraill sydd heb fod yn rhy bell. Sut bynnag, mae’n bwysig trefnu’r gwaith chwilio er mwyn i gymaint o bobl â phosibl gael y cyfle i alw ar enw Jehofah.—Rhuf. 10:13, 14.

4. (a) Sut dylid trefnu’r gwaith chwilio? (b) Beth yw rhai ffyrdd y gallwch ddod o hyd i bobl sy’n siarad eich iaith?

4 Er mwyn osgoi dyblygu gwaith, dylai corff yr henuriaid, ac yn enwedig arolygwr y gwasanaeth, drefnu a goruchwylio’r gwaith chwilio. (1 Cor. 9:26) Yn achos grwpiau ieithoedd tramor, dylai corff henuriaid y gynulleidfa sy’n noddi’r grŵp ddewis brawd cymwys, sef henuriad neu was gweinidogaethol os yw’n bosibl, i arwain y gwaith. Mae llawer o gynulleidfaoedd a grwpiau yn dechrau’r gwaith chwilio drwy ddefnyddio llyfrau ffôn neu’r Rhyngrwyd i gasglu enwau sy’n gyffredin ymhlith siaradwyr yr iaith. Wedyn, maen nhw’n galw ar y cyfeiriadau hynny, neu’n ffonio, er mwyn penderfynu pa rai y dylen nhw eu cynnwys yn eu tiriogaeth. Mewn cynulleidfaoedd sy’n noddi grŵp, fe all corff yr henuriaid drefnu i’r gynulleidfa i gyd wneud gwaith chwilio o bryd i’w gilydd, lle mae hynny yn ymarferol.—Gweler y blwch “Sut i Ddod o Hyd i Siaradwyr Eich Iaith.”

5. (a) Beth yw rhai awgrymiadau ar gyfer gwneud y gwaith chwilio? (b) Beth y gallwn ni ei ddweud wrth bobl yn y gwaith chwilio?

5 Dylen ni fod ag amcanion clir wrth wneud y gwaith chwilio. Gan fod y gwaith hwn yn rhan o’n gweinidogaeth, yn gyffredinol byddwn ni’n gwisgo ar gyfer y weinidogaeth. Mae ymarfer ein cyflwyniadau ar gyfer y gwaith chwilio a siarad yr iaith yn rhoi hwb inni ac yn hogi ein sgiliau iaith. Gallwn ni gyfrif ein hamser yn y gwaith chwilio ond nid yr amser i baratoi mapiau a rhestri. Pan fyddwn ni’n dod o hyd i rywun sy’n siarad yr iaith, dylen ni geisio sôn wrtho am y newyddion da, ac wedyn dylen ni ddweud yn syth wrth yr arolygwr gwasanaeth, neu wrth rywun sydd yn ei helpu, fel y gellir cywiro’r rhestri tiriogaeth. Dylid gwneud hyn ni waeth beth fo ymateb y person. Er mor bwysig yw’r gwaith chwilio, dylen ni gadw cydbwysedd a chael rhan ym mhob agwedd ar y weinidogaeth.—Gweler y blwch “Beth i’w Ddweud yn y Gwaith Chwilio.”

6. Pam mae chwilio am bobl fyddar yn sialens arbennig?

6 Chwilio am y Byddar: Mae chwilio am y byddar yn sialens arbennig sy’n galw am ymdrech a dyfalbarhad. Ni ellir adnabod rhywun byddar wrth ei enw, ei ddillad, na’i bryd a gwedd. Ar ben hynny, gall aelodau teulu fod yn warchodol ac yn gyndyn i roi gwybodaeth i bobl ddiarth. Efallai bydd y syniadau canlynol yn ddefnyddiol wrth chwilio am y byddar ac am y rhai sy’n siarad ieithoedd llafar.

7. (a) Pa ymholiadau y gallwn eu gwneud mewn ardaloedd preswyl er mwyn dod o hyd i bobl fyddar? (b) Sut gallwn ni leddfu pryderon pobl?

7 Mae cynulleidfaoedd a grwpiau iaith arwyddion wedi bod yn llwyddiannus wrth holi mewn ardaloedd preswyl. Weithiau bydd rhywun yn y gymuned yn adnabod pobl yn yr ardal, yn y gwaith, neu yn yr ysgol sy’n defnyddio iaith arwyddion. Efallai bydd ef wedi gweld arwydd yn y stryd sy’n dweud bod plant byddar yn yr ardal. Efallai bydd rhywun yn ei deulu yn fyddar. Cofiwch y bydd rhai pobl yn amau eich rhesymau am holi. Fe allwch chi wneud llawer i leddfu eu pryderon drwy fod yn gyfeillgar ac yn esbonio’r rheswm am eich ymholiadau yn fyr, yn onest ac mewn modd urddasol. Mae rhai wedi llwyddo drwy ddangos DVD y Beibl neu DVDs eraill wrth holi a yw’r person yn adnabod rhywun sy’n fyddar. Yna, maen nhw’n dweud yn syml eu bod nhw’n dymuno dangos i bobl fyddar y gobaith mae’r Beibl yn ei gynnig. Os nad yw’r person yn fodlon rhoi gwybodaeth ichi, efallai bydd yn hapus i basio eich cyfeiriad neu wahoddiad i gyfarfod y gynulleidfa ymlaen i aelod ei deulu neu ffrind.

8. Sut gall cynulleidfa gyfagos helpu cynulleidfa iaith arwyddion?

8 Unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, fe all cynulleidfa iaith arwyddion wahodd cynulleidfa gyfagos sy’n defnyddio iaith arall i’w helpu nhw i chwilio un o ardaloedd y dref neu’r ddinas sydd yn eu tiriogaeth fawr. Gall y gynulleidfa iaith arwyddion gynnal cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth sy’n cynnwys cyfarwyddiadau a dangosiad ar sut i wneud y gwaith chwilio. Bydd o leiaf un cyhoeddwr o’r gynulleidfa iaith arwyddion ym mhob car, ac fe fydd map ganddyn nhw sy’n dangos ardal benodol i’w chwilio.

9. Sut gellir chwilio mewn llefydd y mae’r byddar yn mynd i gymdeithasu, neu i gael gwasanaethau yn y gymuned?

9 Gellir chwilio hefyd le bynnag mae’r byddar yn mynd i gymdeithasu neu i gael gwasanaethau yn y gymuned. Dylai cyhoeddwyr wisgo’n addas ar gyfer y sefyllfa arbennig honno. Efallai byddai’n well siarad yn dawel ag un neu ddau o bobl yn hytrach nag annerch y grŵp cyfan. Os yw’r sgwrs yn dwyn ffrwyth, efallai y medrwch gyfnewid manylion cyswllt.

10. Sut gall cyhoeddwyr chwilio mewn mannau busnes?

10 Dewis arall yw paratoi mapiau sy’n dangos busnesau lleol ac yna, ymweld â nhw ar awr addas. Efallai bydd un map yn cynnwys nifer o orsafoedd petrol. Gall un arall gynnwys siopau glanhau dillad, tai bwyta, gwestai neu fathau eraill o fusnesau. Pan fo’r mapiau yn rhestru un math o fusnes yn unig, bydd cyhoeddwyr yn medru defnyddio’r un dull ac ennill profiad a sgiliau. Er enghraifft, gan fod gwestai fel arfer yn darparu ar gyfer gwesteion byddar, fe allwn ni gael gair byr â’r derbynnydd i ddisgrifio ein gwaith ac i gynnig pecyn sy’n cynnwys DVD a gwahoddiad i’r cyfarfodydd ar gyfer unrhyw westeion byddar. Mewn rhai busnesau, gallwn ni ofyn a oes gweithwyr neu gwsmeriaid sy’n defnyddio iaith arwyddion. Os oes ysgol i’r byddar yn y diriogaeth, fe allwn ni gynnig rhai o’n cyhoeddiadau ar DVD ar gyfer llyfrgell yr ysgol.

11. Pam mae’r gwaith chwilio’n rhan bwysig o’r weinidogaeth?

11 Gwaith Pwysig: Gall chwilio am bobl sy’n siarad eich iaith fod yn waith llafurus. Ar ben hynny, gall fod yn anodd cadw cofnodion cywir wrth i bobl symud i mewn ac allan trwy’r amser. Serch hynny, mewn nifer cynyddol o ardaloedd, mae’r gwaith chwilio yn rhan bwysig o’n gweinidogaeth. Jehofah sydd wedi rhoi inni’r comisiwn i bregethu, ac nid yw ef yn dangos ffafriaeth. (Act. 10:34) Y mae’n “dymuno gweld pob un yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd.” (1 Tim. 2:3, 4) Felly, gadewch inni gydweithio â Jehofah ac â’n gilydd i ddod o hyd i bobl o bob iaith sydd “â chalon dda rinweddol.”—Luc 8:15.

[Blwch ar dudalen 5]

Helpu Ein Gilydd

Os oes angen help ar y gynulleidfa neu grŵp i ddod o hyd i bobl sy’n siarad eu hiaith, fe all arolygwr y gwasanaeth gysylltu â’r henuriaid mewn cynulleidfaoedd eraill cyfagos. Efallai peth call fydd dim ond cysylltu â chynulleidfaoedd sydd heb fod yn rhy bell neu sydd â nifer sylweddol o siaradwyr yr iaith yn eu tiriogaeth nhw. Bydd y cynulleidfaoedd hynny yn dweud wrth eu cyhoeddwyr petaen nhw’n dod ar draws rhywun yn y weinidogaeth sy’n siarad yr iaith honno, dylen nhw nodi’r cyfeiriad a’i rhoi i arolygwr y gwasanaeth i’w basio ymlaen i’r gynulleidfa neu’r grŵp a oedd yn gofyn am help. Bydd arolygwyr y gwasanaeth yn medru cytuno ar drefn sydd yn dderbyniol gan bawb i weithio’r diriogaeth ac i gyfeirio’r rhai sydd â diddordeb i’r gynulleidfa neu grŵp perthnasol.

Os ydy cyhoeddwyr yn dod ar draws rhywun sy’n siarad iaith arall ac sydd â gwir ddiddordeb (neu rywun sy’n fyddar), dylai lenwi’r ffurflen Please Follow Up (S-43) yn syth a’i rhoi i ysgrifennydd y gynulleidfa. Bydd hyn yn sicrhau bod y person yn cael help ysbrydol yn gyflym.—Gweler km-E 5/11 t. 3.

[Blwch ar dudalen 6]

Sut i Ddod o Hyd i Siaradwyr Eich Iaith

• Gofynnwch i bobl eraill—myfyrwyr y Beibl, aelodau teulu, cydweithwyr, ac yn y blaen.

• Defnyddiwch lyfr ffôn i chwilio am enwau sy’n gyffredin ymhlith siaradwyr yr iaith. Fe all fod rhestri arbennig ar gael ar y We, neu drwy gysylltu â’r cwmni ffôn, sy’n rhestru enwau yn ôl cyfeiriad.

• Holwch yn dawel mewn llefydd sy’n cynnig gwasanaethau i’r cyhoedd, megis llyfrgelloedd, swyddfeydd y llywodraeth, a cholegau.

• Edrychwch yn y papur lleol am hysbysebion ar gyfer digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan siaradwyr ieithoedd eraill.

• Ewch i siopau neu fusnesau lleol sy’n darparu ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill.

• Ar ôl cael caniatâd y sefydliadau perthnasol, trefnwch stondin i ddangos ein cyhoeddiadau mewn prifysgolion, canolfannau busnes, neu orsafoedd bysiau a threnau lle ceir siaradwyr yr iaith.

• Os yw’n gyfreithlon yn eich gwlad chi, prynwch lyfr ffôn masnachol neu raglen gyfrifiadurol sy’n chwilio dogfennau cyhoeddus ar y We.

[Blwch ar dudalen 7]

Beth i’w Ddweud yn y Gwaith Chwilio

Bydd pobl yn fwy hapus i siarad â ni os ydyn ni’n gyfeillgar, yn agored ac yn ddidwyll. Peth da fyddai dangos cyhoeddiadau yn eu hiaith nhw ar y dechrau.

Ar ôl cyfarch y person, fe allwch chi ddweud: “Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n siarad ______ er mwyn rhannu gobaith y Beibl â nhw. Ydych chi’n ’nabod rhywun y gallwn ni siarad ag ef?”

Wrth chwilio am bobl fyddar, fe allwch chi ddweud: “Helo. Ga’ i ddangos rhywbeth ichi? [Defnyddiwch chwaraewr DVD bach i chwarae adnod o gyhoeddiad yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL).] Mae hon yn adnod o’r Beibl yn Iaith Arwyddion Prydain. Mae gennyn ni nifer o DVDs eraill sy’n cwrdd ag anghenion ysbrydol pobl fyddar. Maen nhw ar gael am ddim. Ydych chi’n ’nabod rhywun sy’n fyddar neu’n drwm ei glyw ac sy’n defnyddio iaith arwyddion?” Os nad yw’r person yn medru meddwl am rywun, peth da fyddai rhoi enghreifftiau o lefydd efallai y bydd ef wedi gweld rhywun byddar, er enghraifft yn y gwaith, yn yr ysgol, neu yn y gymuned.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu