LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb18 Tachwedd t. 8
  • Cydweithio i Bregethu Mewn Tiriogaeth Amlieithog

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cydweithio i Bregethu Mewn Tiriogaeth Amlieithog
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Erthyglau Tebyg
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Tystiolaethu i Rywun Sy’n Siarad Iaith Arall
    Ein Gweinidogaeth—2015
  • Wedi Ein Trefnu i Bregethu i Bawb
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Cysylltu â Phawb yn Ein Tiriogaeth
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Efallai Bydd Angen Chwilio Cyn Pregethu
    Ein Gweinidogaeth—2012
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
mwb18 Tachwedd t. 8

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cydweithio i Bregethu Mewn Tiriogaeth Amlieithog

Cwpl yn y gwaith pregethu yn cyfarfod dyn a’i fab sy’n siarad iaith wahanol i’w hiaith nhw

Yn aml, mae pobl yn fwy parod i ymateb i neges y Deyrnas pan maen nhw’n ei chlywed yn eu mamiaith. Dyma pam efallai gwnaeth Jehofa, adeg Pentecost 33 OG, drefnu i “Iddewon crefyddol o wahanol wledydd” glywed y newyddion da yn ‘eu hieithoedd eu hunain,’ er bod hi’n debyg eu bod nhw’n siarad iaith gyffredin, fel Groeg neu Hebraeg. (Act 2:5, 8) Mewn ardaloedd amlieithog, gall cynulleidfaoedd sy’n cynnal cyfarfodydd mewn gwahanol ieithoedd ddal tiriogaeth yn yr un un ardal. Sut gall cyhoeddwyr mewn cynulleidfaoedd o’r fath gydweithio i roi tystiolaeth i bawb heb orweithio’r un diriogaeth a chynhyrfu’r deiliaid?

  • Ffôn symudol

    Ymgynghori (Dia 15:22): Dylai arolygwyr gwasanaeth ymgynghori â’i gilydd a chytuno ar ffordd o bregethu’r newyddion da sy’n dderbyniol i’r naill a’r llall. Os yw eu tiriogaeth yn brin, mae’n debyg y bydd cynulleidfaoedd sy’n pregethu mewn ieithoedd gwahanol eisiau i dy gynulleidfa di osgoi galw ar dai yn eu tiriogaeth ieithyddol nhw. Ar y llaw arall, os nad ydyn nhw’n gallu gweithio’u holl diriogaeth yn rheolaidd am ei bod wedi ei gwasgaru dros ardal fawr, efallai bydd well ganddyn nhw fod dy gynulleidfa’n dal i alw ar bob tŷ ac yna gadael iddyn nhw wybod pan fydd rhywun yn dangos diddordeb. (od-E 93 ¶37) Neu efallai byddan nhw’n gofyn i dy gynulleidfa di eu helpu i ddod o hyd i bobl sy’n siarad iaith eu cynulleidfa nhw, iddyn nhw allu ychwanegu’r cyfeiriadau hynny at eu tiriogaeth. (km 7/12 5, blwch) Cofia, weithiau bydd pobl yn siarad mwy nag un iaith yn yr un tŷ. Dylai trefniadau i weithio’r diriogaeth gydymffurfio â chyfreithiau diogelu data perthnasol.

  • Tai mewn tiriogaeth

    Cydweithio (Eff 4:16): Dilyna gyfarwyddyd dy arolygwr gwasanaeth yn ofalus. A wyt ti’n cynnal astudiaeth Feiblaidd gyda rhywun sydd â dewis iaith wahanol i iaith dy gynulleidfa? Mae’n debyg y bydd y myfyriwr yn gwneud mwy o gynnydd os wyt ti’n trefnu i rywun o gynulleidfa neu grŵp sy’n siarad ei iaith astudio gydag ef.

  • Dewisydd iaith

    Paratoi (Dia 15:28; 16:1): Os bydd deiliad tŷ yn dy diriogaeth yn siarad iaith wahanol, gwna dy orau glas i rannu’r newyddion da ag ef. Gelli di baratoi drwy feddwl am yr ieithoedd wyt ti’n debyg o ddod ar eu traws ac yna lawrlwytho cyfieithiadau o’r Beibl a fideos i dy ddyfais symudol ymlaen llaw. Hefyd, gelli di ddefnyddio’r ap JW Language i ddysgu ambell i gyfarchiad mewn ieithoedd eraill.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu