Diogelwch Eich Cydwybod
1. Beth yw thema’r cynulliad undydd arbennig ar gyfer blwyddyn wasanaeth 2013, a beth yw pwrpas y rhaglen?
1 Bob dydd, rydyn ni’n wynebu sefyllfaoedd a all halogi ein cydwybod. Dyna pam mae’r cynulliad undydd arbennig ar gyfer blwyddyn wasanaeth 2013 yn dwyn y thema “Diogelwch Eich Cydwybod.” (1 Tim. 1:19) Pwrpas y rhaglen hon yw i’n helpu ni i roi sylw manwl i’r ffordd rydyn ni’n defnyddio’r gydwybod, sydd yn rhodd werthfawr oddi wrth ein Creawdwr.
2. Pa gwestiynau bydd y rhaglen yn eu hateb?
2 Pwyntiau i’w Nodi: Bydd y rhaglen yn ateb saith prif gwestiwn ynglŷn â’r gydwybod:
• Beth sy’n peryglu’r gydwybod?
• Sut gallwn ni hyfforddi ein cydwybod?
• Sut gallwn ni osgoi bod yn waed-euog?
• Beth mae meddwl am egwyddorion y Beibl a gweithredu arnyn nhw yn ei ddatgelu amdanon ni?
• Sut gallwn ni osgoi clwyfo cydwybod pobl eraill?
• Bobl ifanc, beth gallwch chi ei wneud pan fyddwch chi dan bwysau i gyfaddawdu?
• Pa fendithion a ddaw i’r rhai sy’n dilyn cydwybod sydd wedi’i hyfforddi gan ysbryd Duw?
3. Sut gallwn ni elwa ar y rhaglen?
3 Gyda chymorth Jehofah mae’n bosibl inni wrthsefyll ymdrechion Satan i halogi ein cydwybod. Mae ein Tad nefol cariadus yn defnyddio ei Air a’i gyfundrefn i ddweud wrthon ni: “Dyma’r ffordd, rhodiwch ynddi.” (Esei. 30:21) Mae’r rhaglen hon yn esiampl o’r ffordd y mae Jehofah yn rhoi arweiniad inni. Felly, trefnwch ichi fod yn bresennol ar gyfer y rhaglen gyfan. Gwrandewch yn astud ac ystyriwch sut y gallwch roi’r wybodaeth ar waith yn eich bywydau. Wedyn, adolygwch y rhaglen gyda’ch teulu. Wrth roi ar waith yr hyn a ddysgwn ni, gallwn barhau i ‘gadw ein cydwybod yn lân’ ac osgoi cael ein denu at bleserau dros dro byd Satan.—1 Pedr 3:16.