Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Rhagfyr
“Ar yr adeg yma o’r flwyddyn, mae llawer o bobl yn meddwl am Iesu. Yn eich barn chi, beth oedd y peth pwysicaf a gyflawnodd Iesu? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar deitl yr erthygl ar dudalen 16.” Rhowch gopi o Watchtower Rhagfyr 1 i’r deiliad ac ystyriwch yr wybodaeth o dan yr isbennawd cyntaf ar dudalen 16 ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch i fynd yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Rhagfyr 1
“Ar yr adeg yma o’r flwyddyn, mae pobl yn mynd i ysbryd y Nadolig. P’run o’r pwyntiau yma ydych chi’n meddwl yw’r rhan bwysicaf o’r ysbryd hwnnw? [Dangoswch y rhestr ar dudalen 3 ac arhoswch am ymateb. Trowch i’r erthygl sy’n cyd-fynd â’r pwynt a darllenwch y brif adnod.] Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos sut y gallwn ni gofio am Iesu trwy gydol y flwyddyn, ac nid ar adeg y Nadolig yn unig.”
Awake! Rhagfyr
“Rydyn ni’n galw oherwydd bod llawer heddiw yn teimlo o dan straen ac o dan bwysau. Ydych chi’n meddwl bod pobl yn llai amyneddgar heddiw? [Arhoswch am ymateb.] Mae rhai yn credu ein bod ni’n byw yn ystod y dyddiau enbyd a ragfynegwyd yn 2 Timotheus 3:1. [Darllenwch] Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos pam mae hi’n bwysig bod yn amyneddgar, ac yn rhoi awgrymiadau ynglŷn â sut medrwn ni wneud hynny.”