Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Rhagfyr
“Rydw i’n siŵr y byddech yn cytuno bod pawb angen ffrindiau. Beth rydych chi’n meddwl yw’r peth mwyaf pwysig mewn ffrind? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch beth mae hyn yn ei ddweud am bwysigrwydd fod yn gall wrth ddewis ffrindiau.” Rhowch gopi o’r Watchtower, Rhagfyr 1 i’r deiliad, darllenwch a thrafodwch y deunydd o dan yr is-bennawd ar dudalen 16. Darllenwch o leiaf un adnod. Cynigiwch y cylchgronau a threfnwch i alw’n ôl i ateb y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Rhagfyr 1
“Pam rydych chi’n meddwl bod cymaint o drychinebau naturiol wedi digwydd yn ddiweddar? [Arhoswch am ymateb.] Mae’n ddiddorol bod y Beibl yn rhagweld trychinebau o’r fath. [Darllenwch Mathew 24:7, 8.] Mae’r cylchgrawn hwn yn ateb y cwestiynau: Pam mae cymaint o drychinebau naturiol heddiw? Ai cosb gan Dduw ydyn nhw? Pam rydyn ni’n gallu credu y bydd Duw yn dod â thrychinebau naturiol i ben cyn bo hir?”
Awake! Rhagfyr
Darllenwch 2 Timotheus 3:16. Yna dywedwch: “Mae rhai yn credu bod y Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw, ond nid yw pawb yn cytuno. Beth rydych chi’n ei feddwl? [Arhoswch am ymateb.] Ar y cyfan, mae pobl yn cytuno mai gwyrth yw bod y Beibl wedi goroesi o gwbl o ystyried yr ymdrechion a fu i’w ddinistrio. Mae’r cylchgrawn hwn yn disgrifio rhai o’r pethau sydd wedi digwydd trwy’r canrifoedd i geisio dinistrio’r Beibl a rhwystro pobl rhag ei ddarllen. Mae hefyd yn egluro pam mae’r Beibl wedi goroesi.”