LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 12/12 t. 1
  • “Daliwch Mewn Heddwch â Phawb”

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • “Daliwch Mewn Heddwch â Phawb”
  • Ein Gweinidogaeth—2012
  • Erthyglau Tebyg
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Ymateb i Rywun Dig
    Ein Gweinidogaeth—2015
  • Helpu Pobl i Resymu
    Ein Gweinidogaeth—2011
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Ymateb i Ymdrechion i Ddiweddu’r Sgwrs
    Ein Gweinidogaeth—2014
Ein Gweinidogaeth—2012
km 12/12 t. 1

“Daliwch Mewn Heddwch â Phawb”

1. Pa gyngor o’r Beibl y dylen ni ei roi ar waith wrth gyfarfod pobl sydd wedi eu cynhyrfu?

1 Mae pobl Jehofah yn caru heddwch ac mae ein gweinidogaeth yn un heddychlon. (Esei. 52:7) Ond, ar adegau, rydyn ni’n cyfarfod pobl sydd wedi eu cynhyrfu oherwydd ein bod ni wedi galw arnyn nhw. Beth fydd yn ein helpu ni i ddal mewn heddwch â phawb ar adegau fel hynny?—Rhuf. 12:18.

2. Pam mae’n bwysig inni gydymdeimlo â phobl?

2 Cydymdeimlo â Phobl: Er bod rhai yn ymateb yn ddig i’r gwirionedd, oherwydd eu bod nhw’n ei wrthwynebu, efallai bydd eraill wedi eu cythruddo am resymau nad ydyn nhw’n gysylltiedig â’n neges. Efallai ein bod ni wedi galw ar adeg anghyfleus. Hwyrach bod y deiliad yn poeni am broblemau personol. Hyd yn oed os yw’r person wedi ei wylltio oherwydd y newyddion da, dylen ni gofio bod y deiliad, efallai, wedi cael ei gamarwain. (2 Cor. 4:4) Bydd deall hyn yn ein helpu ni i beidio â chynhyrfu ac i sylweddoli nad ydyn nhw’n flin gyda ni’n bersonol.—Diar. 19:11.

3. Sut gallwn ni ddangos parch tuag at y deiliad?

3 Dangos Parch: Mae gan lawer o bobl yn y diriogaeth ddaliadau cryfion. (2 Cor. 10:4) Mae ganddyn nhw’r hawl i ddewis gwrando neu beidio. Ni ddylwn ni byth geisio bychanu credoau pobl eraill na rhoi’r argraff ein bod ni’n well na nhw. Os yw rhywun yn gofyn inni adael, dylen ni wrando a mynd.

4. Beth mae siarad yn rasol yn ei olygu?

4 Siarad yn Rasol: Hyd yn oed os yw rhywun yn siarad yn gas â ni, dylen ni ymateb yn dyner ac yn rasol. (Col. 4:6; 1 Pedr 2:23) Yn hytrach na dadlau, ceisiwch ganfod tir cyffredin. Efallai y gallwn ni holi yn garedig am y rhesymau pam eu bod nhw’n gwrthwynebu. Er mwyn osgoi codi gwrychyn y deiliad ymhellach, efallai y byddai’n well rhoi taw ar y sgwrs.—Diar. 9:7; 17:14.

5. Pa fendithion a ddaw o fod yn heddychlon yn y weinidogaeth?

5 Os ydyn ni’n heddychlon, efallai y bydd y deiliad yn cofio ein hymateb ac yn penderfynu gwrando y tro nesaf y mae rhywun yn galw. (Rhuf. 12:20, 21) Hyd yn oed os yw’r unigolyn yn dal i wrthwynebu ar hyn o bryd, efallai ryw ddydd, fe ddaw i mewn i’r gwirionedd. (Gal. 1:13, 14) Hyd yn oed os yw’r unigolyn yn ddiysgog yn ei farn ar hyn o bryd, efallai y daw yn frawd inni ryw ddydd yn y dyfodol. Hyd yn oed os nad yw byth yn dangos diddordeb yn y gwirionedd, trwy gadw ein hunanddisgyblaeth a thrwy ddal mewn heddwch â phawb, fe fyddwn ni’n anrhydeddu Jehofah ac ni fydd unrhyw fai ar ein gweinidogaeth.—2 Cor. 6:3.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu