Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Chwefror
“Mae llawer o bobl yn teimlo bod y Diafol yn gyfrifol am y drygioni yn y byd. Ond gofyn y maen nhw: ‘O ble daeth y Diafol? Ai Duw wnaeth greu’r Diafol?’ Beth rydych chi’n ei feddwl? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae hyn yn ei ddweud.” Dangoswch yr erthygl ar dudalen cefn Watchtower Chwefror 1, a thrafod y paragraff cyntaf a’r adnod dan sylw. Cynigiwch y cylchgronau a threfnwch i alw’n ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Chwefror 1
“Hoffen ni gael eich barn chi ar rywun y mae Gristnogion, Iddewon a Mwslemiaid i gyd yn ei barchu, a hwnnw ydy Moses. Beth sy’n dod i’ch meddwl wrth ichi glywed ei enw? [Arhoswch am ymateb.] Er bod Moses wedi gwneud camgymeriadau, sylwch ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud amdano. [Darllenwch Deuteronomium 34:10-12.] Mae’r cylchgrawn hwn yn edrych ar dair o rinweddau Moses ac yn trafod sut y medrwn ni ddilyn ei esiampl.”
Awake! Chwefror
“Mae’n gyffredin heddiw i bobl symud i wledydd eraill i chwilio am fywyd gwell. Ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n darganfod yr hyn maen nhw yn chwilio amdano? [Arhoswch am ymateb.] Dydy hyn ddim yn rhywbeth newydd. Sylwch ar yr esiampl hon yn llyfr cyntaf y Beibl. [Darllenwch Genesis 46:5, 6.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod y cwestiynau yma.” Dangoswch y cwestiynau ar ddiwedd tudalen 6.