Cyflwyniadau Enghreifftiol
Sut i Wahodd Pobl i’r Goffadwriaeth
“Rydyn ni yma i’ch gwahodd chi a’ch teulu i gyfarfod pwysig. Mae’n cael ei gynnal mewn gwledydd ar draws y byd ar 26 Mawrth er mwyn coffáu marwolaeth Iesu. Bydd anerchiad yn esbonio sut mae marwolaeth Iesu o les inni heddiw. Mae’r gwahoddiad yn rhoi’r amser a’r cyfeiriad, ac mae mynediad am ddim.”
The Watchtower Mawrth 1
“Mae rhai pobl wedi gofyn y cwestiwn hwn, ‘Sut gallwn ni fod yn sicr y cafodd Iesu ei atgyfodi?’ A ydych chi erioed wedi meddwl am hyn? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch pam y mae’r ateb yn bwysig. [Darllenwch 1 Corinthiaid 15:14.] Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos sut rydyn ni’n gwybod nad twyll oedd yr atgyfodiad.”
Awake! Mawrth
“Fyddech chi’n cytuno nad yw’n hawdd magu teulu y dyddiau hyn? [Arhoswch am ymateb.] Mae llawer o deuluoedd wedi cael cyngor da yn y Beibl. Er enghraifft, mae’r adnod hon wedi helpu tadau i edrych am y cyfle i ganmol eu plant a magu eu hunanhyder. [Darllenwch Colosiaid 3:21.] Mae’r erthygl hon yn cynnig pum egwyddor syml a fydd yn helpu tadau.”