Cyflwyniadau Enghreifftiol
Gwahodd Pobl i’r Goffadwriaeth
“Rydyn ni wedi dod â gwahoddiad ichi ar gyfer cyfarfod pwysig iawn. Ar y trydydd o Ebrill bydd miliynau o bobl o gwmpas y byd yn mynd i gyfarfodydd i gofio marwolaeth Iesu Grist. Bydd yna drafodaeth am farwolaeth Iesu a’r buddion inni. Bydd mynediad am ddim. Mae’r gwahoddiad yn dangos pryd a lle bydd y cyfarfod yn ein cymuned ni.”
The Watchtower 1 Mawrth
“Ar y trydydd o Ebrill, bydd rhai yn ein cymuned yn cyfarfod i gofio marwolaeth Iesu Grist. Ond nid yw pawb yn teimlo ei bod hi’n bwysig. Beth yw eich barn chi? Ydych chi’n meddwl bod marwolaeth ac atgyfodiad Iesu o fudd inni? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae Gair Duw yn ei ddweud amdani. [Darllenwch 1 Corinthiaid 15:22, 26.] Mae’r cylchgrawn yma yn trafod un o’r bendithion cawn oherwydd yr aberth a wnaeth Iesu—sef, un diwrnod ni fydd neb ar y ddaear yn marw.”
Y Llyfryn Newyddion Da
“Mae gan bawb ei farn bersonol am y cwestiwn ‘A oes yna Dduw?’ Pwy ydych chi’n meddwl sydd â’r agwedd mwyaf positif, pobl sy’n credu yn Nuw, neu bobl sydd ddim? [Arhoswch am ymateb.] Dyma addewid gan Dduw sy’n calonogi llawer o bobl.” [Darllenwch Salm 37:10, 11.] Dangoswch wers 7, cwestiwn 5, a threfnwch fynd yn ôl.