Pwy Fyddai’n Debyg o Gymryd Diddordeb yn Hyn?
1. Wrth inni ddarllen y Watchtower ac Awake! beth ddylen ni ei ystyried, a pham?
1 Mae’r Watchtower ac Awake! wedi eu cynllunio ar gyfer y maes byd-eang. Felly, maen nhw’n trafod amrywiaeth fawr o bynciau. Wrth inni ddarllen yr erthyglau yn ein copi ni o’r cylchgronau, dylen ni ystyried pwy fyddai’n debyg o gymryd diddordeb ynddyn nhw, ac yna gwneud ymdrech i’w cynnig i’r unigolyn hwnnw.
2. Pa bynciau yn ein cylchgronau gall fod o ddiddordeb arbennig i eraill?
2 Ydy rhifyn cyfredol y Watchtower yn egluro pwnc wnaethoch chi drafod gyda chyd-weithiwr yn y gorffennol? A oes erthygl sy’n trafod bywyd teuluol a fydd o ddiddordeb i un o’ch perthnasau? Ydych chi’n adnabod rhywun sydd am deithio i wlad sy’n cael sylw yn yr Awake!? A fydd un o’r cylchgronau yn apelio at rai o asiantaethau’r llywodraeth neu fusnesau yn eich ardal chi? Efallai bydd erthygl am broblemau henaint yn ddefnyddiol mewn cartrefi gofal. Gall cylchgronau sy’n trafod trosedd fod o ddiddordeb i bobl sy’n ymwneud â chyfraith a threfn.
3. Rhowch brofiad sy’n dangos ei bod hi’n werth dewis rhifynnau penodol o’r cylchgronau ar gyfer pobl sy’n debygol o ddangos diddordeb ynddyn nhw.
3 Canlyniadau: Ar ôl derbyn yr erthygl “How to Raise Responsible Children” yn Awake! Hydref 2011, ffoniodd cwpl yn Ne Affrica 25 o ysgolion yn nhiriogaeth eu cynulleidfa. Fe wnaeth dau ddeg dau ohonyn nhw dderbyn copïau a’u rhoi i’w disgyblion. Cafodd gwpl arall yn yr un wlad yr un syniad a rhoddon nhw gopïau i’r ysgolion yn eu tiriogaeth nhw. Penderfynodd athrawon un o’r ysgolion eu defnyddio fel rhan o’u gwersi. Adroddodd y cwpl eu profiad i arolygwr cylchdaith, ac anogodd ef y cynulleidfaoedd yn ei gylchdaith i gysylltu â’r ysgolion yn eu hardaloedd nhw. Roedd cymaint o ofyn am rifyn hwn o’r cylchgronau roedd yn rhaid i’r swyddfa gangen eu hailargraffu!
4. Pam rydyn ni eisiau dosbarthu’r cylchgronau’n eang?
4 Mae’r cylchgronau yn egluro’r gwir ystyr y tu ôl i gyflwr y byd heddiw, ac yn denu sylw at y Beibl ac at Deyrnas Dduw. Y rhain yw’r unig gylchgronau yn y byd sy’n “cyhoeddi iachawdwriaeth.” (Esei. 52:7) Rydyn ni’n awyddus i’w dosbarthu’n eang. Felly, beth am ofyn, ‘Pwy fyddai’n debyg o gymryd diddordeb yn hyn?’