Trafodwch Un Pwnc, Ond Gadewch y Ddau Gylchgrawn
Mae pob pâr o’r cylchgronau’n cynnwys amrywiaeth o wahanol bynciau. Yn hytrach na cheisio trafod sawl pwnc wrth bob drws, fe fyddai’n well trafod un yn unig. Pan ydyn ni’n gyfarwydd â chynnwys y cylchgronau ac yn ymwybodol o’r hyn sydd o’n cwmpas, gallwn ni drafod rhywbeth â’r deiliaid o’r Watchtower neu’r Awake! a fydd o ddiddordeb iddyn nhw. Er enghraifft, os ydyn ni’n gweld teganau yn yr ardd neu’r tŷ efallai byddai’n bosibl sôn am erthygl sy’n trafod bywyd teuluol. Ond os daw dyn i’r drws, efallai gallwn ni drafod rhywbeth a fydd o ddiddordeb iddo, fel llywodraeth dda. Er ein bod ni’n trafod ddim ond un erthygl, fel arfer dylwn ni gynnig y ddau gylchgrawn os oes gan y deiliad diddordeb.