LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 6/13 t. 1
  • Ydych Chi’n Barod i Addasu?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ydych Chi’n Barod i Addasu?
  • Ein Gweinidogaeth—2013
  • Erthyglau Tebyg
  • Cadwa Agwedd Bositif Tuag at Dy Weinidogaeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dangos Diddordeb Personol
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Dangos Gwerth Ymarferol y Deunydd
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • “Teaching . . . Publicly and From House to House”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2013
km 6/13 t. 1

Ydych Chi’n Barod i Addasu?

1. Mae newidiadau yn y byd yn gofyn inni wneud pa addasiadau?

1 Yn iaith wreiddiol 1 Corinthiaid 7:31, mae’r Beibl yn cymharu’r byd â drama ar lwyfan. Mae trefn y llwyfan hwnnw, neu’r olygfa, yn newid yn aml. Heddiw mae’r byd yn newid yn aml, yna mae’n rhaid i ninnau addasu ein dulliau o bregethu, ein rhaglen, a’n cyflwyniadau. A ydych chi’n barod i addasu?

2. Pam dylwn ni addasu er mwyn cadw i fyny gyda chyfundrefn Jehofah?

2 Eich Dulliau o Bregethu: Mae’r gynulleidfa Gristnogol wastad wedi bod yn hyblyg. Yn y dechrau, pan anfonodd Iesu ei ddisgyblion allan, fe ddywedodd wrthyn nhw i beidio â chymryd bwyd nac arian gyda nhw. (Math. 10:9, 10) Sut bynnag, fe newidiodd ei gyfarwyddyd am iddo ragweld agwedd y bobl yn troi’n elyniaethus tuag at ei ddisgyblion, a bydd y gwaith pregethu’n lledaenu i ardaloedd eraill. (Luc 22:36) Dros y ganrif ddiwethaf, mae cyfundrefn Jehofah wedi defnyddio gwahanol ddulliau o bregethu yn ôl yr angen ar y pryd, megis cardiau tystiolaeth, darlledu dros y radio, a cheir gydag uchelseinydd. Heddiw, mewn rhai ardaloedd, pur anaml y cawn hyd i bobl gartref. Oherwydd hyn, rhoddir mwy o bwyslais ar ychwanegu at ein gweinidogaeth o dŷ i dŷ gyda thystiolaethu cyhoeddus ac anffurfiol. Hefyd, rydyn ni wedi cael ein hannog i fynd o dŷ i dŷ yn gynnar yn y nos os yw pobl wedi mynd i’w gwaith yn ystod y dydd. Wrth i gerbyd nefol Jehofah newid ei gwrs, ydych chi’n cadw i fyny gydag ef?—Esec. 1:20, 21.

3. Sut mae bod yn barod i addasu yn ein helpu i fod yn bregethwyr mwy effeithiol?

3 Eich Cyflwyniad: Beth sydd ar feddyliau’r bobl yn eich ardal chi ar hyn o bryd? Yr economi? Y teulu? Rhyfel? Mae’n bwysig i fod yn ymwybodol o broblemau ac amgylchiadau’r bobl yn ein tiriogaeth er mwyn inni allu paratoi cyflwyniadau perthnasol. (1 Cor. 9:20-23) Pan fydd deiliaid y tŷ yn mynegi eu hunain, yn hytrach na rhoi rhyw ymateb arwynebol a pharhau gyda’r cyflwyniad rydyn ni wedi ei baratoi, llawer gwell fyddai addasu ac ymateb i’r hyn sydd ar eu meddyliau nhw.

4. Pam dylwn ni fod yn gyflym i addasu?

4 Yn fuan iawn bydd “trefn” llwyfan y byd hwn a’i olygfa olaf yn dod i ben, a bydd y gorthrymder mawr yn dechrau. “Y mae’r amser wedi mynd yn brin.” (1 Cor. 7:29) Mor bwysig yw hi felly, inni addasu a gwneud hynny heb oedi, er mwyn inni allu gwneud gymaint ag y medrwn ni yn yr ychydig amser sydd ar ôl!

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu