Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dangos Diddordeb Personol
Pam Mae’n Bwysig: Roedd Iesu’n gweld pobl fel unigolion, a dangosodd ddiddordeb personol a chariadus ynddyn nhw. Er enghraifft, ar un achlysur synhwyrodd Iesu fod dyn byddar braidd yn swil, felly, aeth ag ef i ffwrdd i’w iacháu, allan o olwg y dorf. (Marc 7:31-35) Roedd Iesu yn trin ei ddisgyblion yn ystyriol drwy gydnabod bod terfyn ar eu galluoedd nhw, felly nid oedd yn eu gorlwytho â gormod o wybodaeth. (Ioan 16:12) Mae Iesu yn dangos diddordeb personol hyd yn oed yn y nefoedd. (2 Tim. 4:17) Fel dilynwyr Crist, rydyn ni eisiau ei efelychu. (1 Pedr 2:21; 1 Ioan 3:16, 18) Hefyd, byddwn ni’n fwy effeithiol yn y weinidogaeth os ydyn ni’n ystyried amgylchiadau unigryw’r deiliad, ei ddiddordebau, a’i bryderon. Bydd y deiliad yn fwy tebygol o wrando os bydd yn deall nad ydyn ni yno i genhadu a gadael llenyddiaeth yn unig, ond oherwydd bod gennyn ni ddiddordeb diffuant ynddo ef.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Yn ystod eich addoliad teuluol, neu tra eich bod chi ar y weinidogaeth, gallwch ymarfer addasu eich cyflwyniadau er mwyn trafod rhywbeth y mae’r deiliad yn ei godi.
Yn ystod rhai cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth, gall y brawd sy’n arwain y grŵp drafod neu roi enghreifftiau o sut i ddangos diddordeb personol.