Cyfres Ddefnyddiol ar Gyfer y Weinidogaeth
1. Pa ddau bwrpas sydd gan y gyfres “A Conversation With a Neighbor”?
1 O dro i dro, mae rhifyn y cyhoedd o’r Watchtower yn cynnwys y gyfres “A Conversation With a Neighbor.” Mae yna ddau bwrpas i’r gyfres hon—cyflwyno dysgeidiaethau’r Beibl mewn ffordd ddeniadol a dangos sut medrwn ni resymu ar ambell bwnc gan ddefnyddio tact. (1 Pedr 3:15) Sut gallwn ni wneud y gorau o’r erthyglau hyn?
2. Sut gallwn ni ddefnyddio’r gyfres hon yn y weinidogaeth?
2 Defnyddiwch Nhw yn y Weinidogaeth: Gallwch gadw copïau o’r Watchtower sy’n cynnwys erthyglau o’r gyfres hon. Pan fydd deiliad, rhywun â diddordeb, neu fyfyriwr y Beibl yn gofyn cwestiwn neu’n anghytuno â rhywbeth penodol, chwiliwch am erthygl o’r gyfres sy’n trafod yr un pwnc a rhowch gopi iddo er mwyn ei thrafod. Os nad oes gennych chi gopi printiedig o’r erthygl, gallwch ei lawrlwytho o jw.org.
3. Sut medrwn ni drafod un o’r erthyglau hyn gyda deiliad?
3 Sut gallwn ni drafod un o’r erthyglau hyn gyda rhywun? Mae rhai wedi gofyn i’r deiliad ddarllen geiriau’r cymydog, tra eu bod nhw’n darllen geiriau’r cyhoeddwr. Gall trafod y deialog printiedig fod yn effeithiol oherwydd mae’n rhoi cyfle i’r deiliad edrych ar yr hyn rydyn ni’n ei gredu heb deimlo’n anghyfforddus.—Deut. 32:2.
4. Sut gallwn ni ddefnyddio’r erthyglau yn y gyfres hon i hyfforddi ein hunain?
4 Hyfforddwch Eich Hun ac Eraill: Wrth ichi ddarllen yr erthyglau hyn, nodwch yr adnodau a’r eglurebau sy’n cael eu defnyddio, a’r ffordd o resymu. Sylwch ar y ffordd mae’r cyhoeddwr yn siarad. Yna, defnyddiwch ddull tebyg yn eich gweinidogaeth chi. (Diar. 1:5; 9:9) Dywedodd un chwaer, “Mae darllen yr erthyglau yma yn debyg i weithio gydag arloeswr ‘perffaith,’ rhywun sy’n gwybod yn union beth i’w ddweud!”
5. Sut gallwn ni helpu ein myfyrwyr Beiblaidd i baratoi ar gyfer y weinidogaeth?
5 Gallwch hefyd ddefnyddio’r sgriptiau i helpu’ch myfyrwyr i baratoi ar gyfer y weinidogaeth. Darllenwch yr wybodaeth gyda’ch gilydd, gan adael i’r myfyriwr chwarae rhan y cyhoeddwr. Drwy wneud hyn, gall myfyrwyr ymarfer egluro eu daliadau mewn ffordd gariadus. (Col. 4:6) Yn wir, mae Jehofah yn gwneud llawer i’n helpu ni i ‘gyflawni ein gweinidogaeth,’ gan gynnwys rhoi’r erthyglau hyn inni.—2 Tim. 4:5.