Erthyglau Ychwanegol yn y Tŵr Gwylio
Mae llawer o gyhoeddwyr yn defnyddio JW Library® i baratoi ar gyfer y cyfarfodydd ac yn hoffi pa mor hawdd ydy hi i gael at yr erthyglau astudio. Ond mae ’na fwyd ysbrydol i’w gael mewn erthyglau ychwanegol yn rhifyn astudio’r Tŵr Gwylio. Sut gelli di ffeindio’r erthyglau hyn yn JW Library er mwyn elwa ohonyn nhw?
Ar ddiwedd pob erthygl astudio yn y Tŵr Gwylio, mae ’na isbennawd “Mwy i’w Ddarllen.” O dan yr isbennawd hwnnw, tapia’r linc “Erthyglau eraill yn y rhifyn hwn.” Yma, gelli di weld y cynnwys, a theitl a rhif pob erthygl astudio. Tapia deitl yr erthygl ychwanegol rwyt ti eisiau ei darllen.
Yn y tab Hafan ar JW Library, mae ’na ran “Beth Sy’n Newydd?” Yna, gelli di lawrlwytho pob rhifyn newydd o’r Tŵr Gwylio pan mae’n ymddangos. Agora’r cylchgrawn sydd wedi ei lawrlwytho ac edrycha ar y cynnwys i wneud yn siŵr dy fod yn elwa o’r erthyglau i gyd.