Sut i Baratoi Cyflwyniadau Effeithiol
1. Pa mor bwysig yw defnyddio cyflwyniad da?
1 Mae arogl bwyd yn codi awydd ar rywun i fwyta. Yn yr un modd, mae cyflwyniad da yn codi awydd ar rywun i gael trafodaeth ysbrydol. Gall cyflwyniadau effeithiol amrywio yn eu hyd a’u cynnwys, ond, mae angen paratoi o flaen llaw fel mae angen paratoi er mwyn gwneud pryd o fwyd blasus. (Diar. 15:28) Beth sy’n gwneud cyflwyniad yn effeithiol?
2. Sut y gallwn ni baratoi cyflwyniadau sy’n ennyn diddordeb?
2 Dewis Pynciau Diddorol: Mae’n hanfodol bod ein cyflwyniad yn ennyn diddordeb y deiliad, neu efallai bydden nhw’n diweddu’r sgwrs. Felly, wrth baratoi, meddyliwch am bynciau a fydd yn ennyn diddordeb y bobl leol. Oes gan bobl leol diddordeb mewn llywodraeth dda, bywyd teuluol hapus, neu weld diwedd ar ryfel? Ar y cyfan, mae pobl yn fodlon i ddweud eu dweud, felly paratowch gwestiwn sy’n gofyn am eu safbwynt. Allwch chi ddefnyddio un o’r cyflwyniadau enghreifftiol o Ein Gweinidogaeth a’i addasu ar gyfer eich tiriogaeth? Beth am ymarfer rhai o’r cyflwyniadau yn eich noson Addoliad Teuluol?
3. Sut gallwn ni addasu ein cyflwyniad ar gyfer diwylliant a chefndir y rhai yn ein tiriogaeth?
3 Meddyliwch am eu Cefndir a’u Diwylliant: Mewn rhai llefydd, mae’r deiliad yn disgwyl inni ddweud y rheswm pam rydyn ni yno heb oedi. Mewn ardaloedd eraill, mae pobl yn gweld hi’n anghwrtais i rywun dieithr alw heb ofyn sut maen nhw, ac yna rannu ychydig o wybodaeth bersonol. Mewn rhai llefydd mae cefndir crefyddol y bobl yn caniatáu inni fod yn agored am y Beibl yn ein cyflwyniad. (Act. 2:14-17) Ond, petai’r bobl yn rhan o grefydd di-Gristion, neu ddim yn rhan o grefydd o gwbl, efallai byddai’n well i beidio â sôn am y Beibl tan rydyn ni’n galw yn ôl yn hytrach nag ar yr alwad gyntaf.—Act. 17:22-31.
4. Pam dylen ni feddwl yn ofalus am ein geiriau agoriadol?
4 Ein Geiriau Agoriadol: Paratowch eich geiriau agoriadol yn ofalus. Fel arfer, mae’n well defnyddio brawddegau byr a syml. Mae’r ffordd rydyn ni’n dweud pethau hefyd yn bwysig. Byddwch yn frwdfrydig. Er mwyn dangos diddordeb yn y deiliad, gwenwch a byddwch yn gyfeillgar. Bydd dilyn yr awgrymiadau hyn yn ein helpu ni i baratoi cyflwyniadau a fydd yn denu pobl leol i fwyta ‘o fwrdd Jehofah.’—1 Cor. 10:21.