Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Paratoi Ein Geiriau Agoriadol
Pam Mae’n Bwysig: Os nad yw ein cyflwyniad yn tynnu sylw’r deiliad, efallai y bydd yn dod â’r sgwrs i ben cyn cawn gyfle i dystiolaethu wrtho. Felly, mae llawer o gyhoeddwyr yn ystyried y geiriau agoriadol fel y rhan bwysicaf o’u cyflwyniad. Er bod Ein Gweinidogaeth a’r llyfr Reasoning yn cynnwys cyflwyniadau enghreifftiol, nid ydyn nhw’n cynnwys cyflwyniadau cyflawn bob tro. Mae hyn yn caniatáu i’r cyhoeddwr fod yn hyblyg. Hyd yn oed os yw’r cyflwyniad wedi cael ei ysgrifennu’n llawn, efallai bydd rhai yn penderfynu newid y cyflwyniad neu baratoi un newydd. Byddwn ni’n fwy effeithiol os ydyn ni’n paratoi ein geiriau agoriadol o flaen llaw yn hytrach na dweud y peth cyntaf sy’n dod i’n meddyliau pan fydd y deiliad yn agor y drws.—Diar. 15:28.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Neilltuwch amser yn eich addoliad teuluol ar gyfer paratoi ac ymarfer eich geiriau agoriadol.
Newidiwch eich cyflwyniad os nad yw’n effeithiol.