Dechrau Astudiaethau Beiblaidd ar Eich Galwadau Cylchgronau
1. Pam mae cyfundrefn Jehofah wedi ein hannog ni i ddatblygu galwadau cylchgronau?
1 Mae llawer o bobl yn mwynhau darllen ein cylchgronau, ond dydyn nhw ddim eisiau astudio’r Beibl gyda ni. Felly, am flynyddoedd mae cyfundrefn Jehofah wedi ein hannog ni i ddatblygu galwadau cylchgronau. Wrth i bobl ddarllen ein cylchgronau’n rheolaidd, yn aml maen nhw’n meithrin awydd am Air Duw. (1 Pedr 2:2) Yn y diwedd, gall rhywbeth maen nhw’n ei ddarllen wneud argraff arnyn nhw, ac achosi iddyn nhw dderbyn astudiaeth o’r Beibl.
2. Sut gallwn ni feithrin diddordeb ein galwadau?
2 ‘Dyfrhau’ Hadau’r Gwirionedd: Yn hytrach na dosbarthu’r cylchgronau yn unig, beth am ddechrau sgyrsiau ac adeiladu perthnasau gyda phobl? Bydd hyn yn eich helpu i ddysgu am eu hamgylchiadau, eu diddordebau, a’u daliadau, ac yna byddech yn gwybod beth i’w ddweud. (Diar. 16:23) Paratowch ar gyfer pob ymweliad. Trafodwch yn fyr un o’r pwyntiau ac adnodau o’r cylchgronau, gan roi dŵr i hadau’r gwirionedd sydd yn eu calonnau. (1 Cor. 3:6) Nodwch ddyddiad pob ymweliad, y llenyddiaeth gadawsoch chi, a’r pynciau a’r adnodau a gafodd eu trafod.
3. Pa mor aml dylen ni alw ar ein galwadau cylchgronau?
3 Galw Pa Mor Aml? Dylech chi alw unwaith y mis ar eich galwadau gyda’r cylchgronau diweddaraf. Ond, wrth ichi ystyried eich amgylchiadau chi, a diddordeb y galwad, efallai byddech chi’n penderfynu galw’n fwy aml. Er enghraifft, wythnos neu ddwy ar ôl ichi adael y cylchgronau, gallwch fynd yn ôl a dweud, “Dwi’n galw i ddangos rhywbeth diddorol yn y cylchgronau wnes i adael gyda chi.” Bydd hyn yn codi awydd arno i ddarllen yr erthygl honno. Os yw wedi darllen yr erthygl yn barod, gallwch chi ofyn am ei farn ac yna trafod yr erthygl. Neu, os yw’n mwynhau darllen ein llenyddiaeth, gallwch alw eto i gynnig y traethodyn, y llyfryn, neu’r llyfr rydyn ni’n ei gynnig y mis hwnnw.
4. Beth gallwch chi ei drio o dro i dro er mwyn gweld os yw eich galwadau yn barod i astudio’r Beibl?
4 Peidiwch ag aros i’r deiliad ofyn i chi am astudiaeth. Cymerwch y cam cyntaf. Hyd yn oed os yw wedi gwrthod astudiaeth yn y gorffennol, bob hyn a hyn gallwch ddangos erthygl o’r gyfres “Bible Questions Answered” o’r Watchtower a gweld os yw’n fodlon i’w thrafod. Efallai gallwch gychwyn astudiaeth wrth y drws. Ond, os na allwch chi ddechrau astudiaeth, gallwch ddal i alw gyda’r cylchgronau er mwyn meithrin ei ddiddordeb.