Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Datblygu Galwadau Sy’n Derbyn y Cylchgronau
Pam Mae’n Bwysig? Nid pawb sy’n mwynhau darllen ein cylchgronau a fyddai’n dymuno astudio’r Beibl gyda ni. Efallai eu bod nhw’n hapus â’u crefydd eu hunain neu does ganddyn nhw mo’r amser i astudio. Ond, wrth iddyn nhw ddarllen ein cylchgronau’n rheolaidd, efallai byddan nhw’n meithrin yr awydd am Air Duw. (1 Pedr 2:2) Efallai bydd rhyw erthygl yn taro tant gyda nhw, neu bydd eu hamgylchiadau’n newid. Bydd galwadau byr a chyson yn eu helpu nhw i deimlo’n fwy cyfforddus, a chawn ganfod eu diddordebau a’u pryderon. Ym mhen amser, efallai bydden nhw’n dechrau astudio’r Beibl.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Gwnewch restr o alwadau rydych chi’n meddwl y bydden nhw’n hoffi derbyn y cylchgronau yn rheolaidd. Cynigiwch y cylchgronau diweddaraf, a dywedwch y byddwch yn dod â’r rhifyn nesaf iddyn nhw.