Defnyddio Ein Gwefan yn y Weinidogaeth—“Atebion i Gwestiynau am y Beibl”
Mae’r rhan “Dysgeidiaethau’r Beibl” ar jw.org yn cynnwys “Atebion i Gwestiynau am y Beibl.” Os ydyn ni’n gyfarwydd â’r cwestiynau cyffredin hyn, gallwn gyfeirio’r deiliad at ein gwefan i gael atebion Ysgrythurol. Gallwn ni ddefnyddio’r cwestiynau hyn hefyd i ddechrau sgyrsiau yn y weinidogaeth. Gallwn ddewis cwestiwn sydd o ddiddordeb i bobl yn ein tiriogaeth, gofyn am farn y deiliad, ac yna dangos beth mae’r Beibl yn ei ddweud drwy ddefnyddio’r rhesymeg o jw.org. Wedyn, gallwn egluro neu ddangos iddo o le y cawson ni hyd i’r wybodaeth. Opsiwn arall yw gadael iddo ddarllen yr ateb yn syth o’r wefan. Mae gwraig un o’r arolygwyr teithiol wedi cael llwyddiant drwy ddweud: “Mae llawer yn gofyn, ‘Ai Duw sydd ar fai am ddioddefaint?’ Hoffech chi wybod yr ateb mewn 51 eiliad yn unig?” Wedyn mae hi’n chwarae fersiwn sain o’r ateb y mae hi wedi ei lawrlwytho i’w dyfais symudol. Mae hi’n diweddu drwy gyflwyno pennod 11 o’r llyfr Beibl Ddysgu.