Dilynwch Esiamplau’r Proffwydi—Seffaneia
1. O dan ba amgylchiadau roedd Seffaneia yn proffwydo, a sut mae ef yn esiampl dda i ni heddiw?
1 Yng nghanol y seithfed ganrif COG, roedd pobl yn Jwda yn addoli Baal heb gywilydd. Ychydig ar ôl i’r Brenin drwg Amon gael ei lofruddio, roedd y Brenin ifanc Joseia yn rheoli. (2 Cron. 33:21–34:1) Yn ystod yr amser hwnnw, anfonodd Jehofa Seffaneia i ddatgan Ei farnedigaeth. Mae’n bosibl fod Seffaneia yn rhan o deulu brenhinol Jwda, ond, er hynny, nad oedd yn gwanhau barnedigaeth Jehofa yn erbyn arweinwyr Jwda. (Seff. 1:1; 3:1-4) Yn yr un modd, rydyn ni’n ymdrechu i adlewyrchu dewrder Seffaneia ac osgoi gadael i’n teulu ymyrryd ar ein haddoliad i Jehofa. (Math. 10:34-37) Pa neges gyhoeddodd Seffaneia, a beth oedd y canlyniadau?
2. Beth sydd rhaid inni ei wneud i aros yn ddiogel yn nydd llid Jehofa?
2 Ceisiwch Jehofa: Dim ond Jehofa all achub unigolion yn nydd ei lid. Felly, fe wnaeth Seffaneia annog pobl Jwda i geisio Jehofa, i geisio cyfiawnder, ac i geisio gostyngeiddrwydd tra bod amser. (Seff. 2:2, 3) Mae’r un peth yn wir heddiw. Fel Seffaneia, rydyn ni’n annog eraill i geisio Jehofa, ond mae’n rhaid i ni weithredu hefyd a bod yn benderfynol i beidio byth â ‘chefnu ar yr ARGLWYDD.’ (Seff. 1:6) Yn hytrach, rydyn ni’n ceisio Jehofa drwy astudio ei Air yn ofalus a thrwy weddïo am ei arweiniad. Rydyn ni’n ceisio cyfiawnder drwy fyw bywyd moesol. Rydyn ni’n ceisio gostyngeiddrwydd drwy feithrin agwedd ufudd a thrwy fod yn barod i ddilyn cyfarwyddyd cyfundrefn Jehofa.
3. Pam y dylen ni gadw agwedd bositif yn y weinidogaeth?
3 Canlyniadau Positif: Fe wnaeth neges Seffaneia ysgogi o leiaf rhai yn Jwda i geisio Jehofa, yn enwedig Joseia a oedd dal yn fachgen pan gychwynnodd geisio Jehofa. Yn nes ymlaen, cychwynnodd Joseia ymgyrch drylwyr yn Jwda yn erbyn eilunaddoliaeth. (2 Cron. 34:2-5) Heddiw, er bod rhai o’r hadau yn disgyn ar hyd y llwybr, ar leoedd creigiog, neu ymhlith y drain, mae rhai hefyd yn disgyn ar dir da ac yn dwyn ffrwyth. (Math. 13:18-23) Rydyn ni’n hyderus y bydd Jehofa yn dal ati i fendithio ein hymdrechion wrth inni gadw’n brysur yn hau had y Deyrnas.—Salm 126:6.
4. Pam y dylen ni ddisgwyl am Jehofa?
4 Tybiodd rhai yn Jwda na fyddai Jehofa byth yn gweithredu. Ond, addawodd Jehofa fod ei ddydd mawr yn agos. (Seff. 1:12, 14) Daeth iachawdwriaeth i’r rhai a oedd yn ymddiried ynddo ef yn unig. (Seff. 3:12, 17) Wrth inni ‘ddisgwyl am Jehofa,’ gadewch inni fod yn llawen a gwasanaethu ein Duw ochr yn ochr â’n brodyr a chwiorydd!—Seff. 3:8, 9.