TRYSORAU O AIR DUW | SEFFANEIA 1–HAGGAI 2
Tro at Jehofa Cyn Diwrnod ei Lid
Seff 2:2, 3
Er mwyn i Jehofa ein cuddio ar ddiwrnod ei lid, mae rhaid inni wneud mwy na chysegru ein hunain iddo. Mae rhaid inni ufuddhau i’r cyfarwyddyd a roddodd Seffaneia i’r Israeliaid.
Ceisia Jehofa: Cadwa dy berthynas â Jehofa â’i gyfundrefn yn un agos
Ceisia gyfiawnder: Cadwa safonau cyfiawn Jehofa
Ceisia addfwynder: Bydda’n ostyngedig, ildia i ewyllys Duw, a derbyn ei ddisgyblaeth
Sut gallwn i fynd ati’n fwy selog i geisio Jehofa, ei gyfiawnder, ac addfwynder?