Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Gosod y Sylfaen ar Gyfer Galw’n Ôl
Pam Mae’n Bwysig: Pan ydyn ni’n cyfarfod rhywun sy’n dangos diddordeb, rydyn ni eisiau dychwelyd pan fydd y deiliad gartref er mwyn inni fedru dyfrhau’r had rydyn ni wedi ei blannu. (1 Cor. 3:6) Yn aml, er mwyn gwneud hyn mae angen inni osod sylfaen drwy ofyn pryd y gallwn ni alw eto. Hefyd, peth da yw codi cwestiwn inni drafod y tro nesaf. Bydd hyn yn ennyn diddordeb y deiliad yn ein hymweliad nesaf, ac os yw’r llenyddiaeth a osodwyd yn ateb y cwestiwn, bydd yr unigolyn yn fwy tebygol o’i darllen. Oherwydd bod y sylfaen wedi ei gosod, bydd yn haws inni alw’n ôl a bydd y deiliad yn gwybod o flaen llaw pa bwnc y bydden ni’n ei drafod. Ar ôl galw’n ôl, peth da fyddai agor y sgwrs drwy ddweud ein bod ni yno i ateb y cwestiwn a godwyd y tro diwethaf.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Wrth roi eich cyflwyniad at ei gilydd, paratowch gwestiwn ar gyfer y tro nesaf. Rhannwch eich syniadau â’ch cyd-gyhoeddwyr.