EIN BYWYD CRISTNOGOL
Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Paratoi’r Ffordd ar Gyfer Ail Alwad
PAM MAE’N BWYSIG?
Rydyn ni eisiau rhoi dŵr i hadau’r gwirionedd. (1Co 3:6) Pan fyddwn ni’n siarad â rhywun sy’n dangos diddordeb, peth da yw gadael cwestiwn i’w drafod y tro nesaf. Bydd y person yn edrych ymlaen at y sgwrs nesaf, a bydd yn haws inni baratoi ar gyfer yr alwad. Pan awn ni’n ôl, gallwn ddweud ein bod ni wedi dod i ateb y cwestiwn a godon ni’r tro diwethaf.
SUT I FYND ATI?
Wrth baratoi eich cyflwyniad, paratowch hefyd gwestiwn i’w ateb ar yr alwad nesaf. Gallwch ddewis cwestiwn sy’n cael ei ateb yn y cyhoeddiadau rydych chi’n eu defnyddio. Neu, os ydych chi’n bwriadu cynnig un o’r cyhoeddiadau ar gyfer astudio ar yr alwad nesaf, gallwch godi cwestiwn sy’n cael ei ateb yn hwnnw.
Ar ddiwedd y sgwrs, dywedwch y byddech chi’n hoffi cael sgwrs arall, a chodwch y cwestiwn a baratowyd gennych chi. Os yw’n bosibl, gofynnwch am ei fanylion cyswllt.
Os ydych chi’n gwneud apwyntiad penodol i fynd yn ôl, byddwch yn sicr o’i gadw.—Mth 5:37.